Mae’r heddlu a’r gwasanaethau bryd yn ymchwilio wedi tân yng nghyn-safle Jewsons ym Mangor.
Cafodd y gwasanaeth tân ac achub eu galw i’r safle yn Hirael toc wedi 3.45pm ddoe.
Bu’n rhaid i heddlu oedd yn gwisgo masgiau ymweld â thai gan ofyn i bobol aros yn eu tai.
Llwyddodd 20 o ddiffoddwyr tân o Fangor, Biwmares a Llanfairfechan i ddiffodd y fflamau o fewn dwy awr.
Maen nhw’n credu nad oedd unrhyw un yn yr adeilad ar y pryd, wrth i’r tân ledu drwy nenfwd yr adeilad.
Mae’r Stryd Fawr yn parhau ar gau i’r ddau gyfeiriad.