Stephen Jones
Mae S4C wedi cyhoeddi amserlen rhaglenni’r Sianel o Gwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd ym misoedd Medi a Hydref.

Bydd y Sianel yn darlledu naw gêm yn fyw – gan gynnwys pob un o gemau Cymru yn adran y grwpiau ac un gêm ymhob un o’r rowndiau terfynol.

Bydd y sianel hefyd yn darlledu y seremoni agoriadol a’r gêm agoriadol rhwng Seland Newydd a Tonga, y Ffeinal a’r Ffeinal Efydd am y drydydd safle yn y bencampwriaeth.

Yn ogystal â dangos y gemau yma’n fyw yn y boreau, bydd S4C yn darlledu rhaglenni uchafbwyntiau yn yr hwyr ar ddiwrnod y gêm.

Bydd rhaglenni’r hwyr yn cynnwys uchafbwyntiau estynedig o gemau Cymru, uchafbwyntiau gemau eraill a thrafodaeth fyw gyda phanel o arbenigwyr.

Bydd gwahoddiad hefyd i’r gwylwyr roi eu barn a holi’r panelwyr drwy wahanol ddulliau cyfathrebu gan gynnwys y ffôn, neges destun, Twitter – drwy ddefnyddio #rygbi – a Facebook.

Y cyflwynwyr

Ymhlith tîm cyflwyno S4C bydd Gareth Roberts ac Arthur Emyr, y sylwebwyr Wyn Gruffydd a Derwyn Jones, y dadansoddwyr Gwyn Jones a Brynmor Williams gyda sylwadau pellach gan y cyn-chwaraewyr rhyngwladol, Emyr Lewis a Jonathan Davies.

Yn ymuno a thîm cyflwyno rhaglenni’r nos, bydd y cyflwynydd, Carys Davies. Hi fydd yn trosglwyddo ymateb a chwestiynau’r cyhoedd i’r panelwyr.

Ceir adroddiadau o bersbectif Hemisffer y De gan Delyth Morgan, cyn-aelod o dîm rygbi rhyngwladol Cymru sydd nawr yn byw yn Seland Newydd.

‘Balch’

“Rydym yn falch iawn i gyhoeddi ein harlwy cyffrous o Gwpan Rygbi’r Byd 2011 fydd yn cynnwys naw gêm fyw a phecyn uchafbwyntiau estynedig,” meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C.

“Bydd S4C yn darlledu gemau Cymru ac yn edrych ar y twrnamaint o bersbectif Cymreig a gyda golwg ar wersyll carfan Cymru o’r tu fewn.

“Yn ogystal â’r gemau byw yn y boreau, byddwn yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o gemau Cymru yn yr oriau brig gyda’r nos. Bydd y rhaglen hon yn cynnig platfform i wylwyr gael dweud eu dweud ac i holi panel o arbenigwyr ynglŷn â’r Bencampwriaeth.”

Rhagor o Jonathan

Bydd sioe rygbi Jonathan hefyd yn dychwelyd am gyfres o saith rhaglen. Ymhob sioe, bydd Jonathan Davies a’r tîm yn rhoi rhagolwg o gemau Cymru a gemau’r rowndiau terfynol.

Bydd y rhaglenni byw yn cynnwys adroddiadau cyn pob gêm ac ar ôl y chwarae yn ogystal â chyfweliadau o wersyll y Cymry, wrth i’r tîm cenedlaethol wynebu De Affrica, Ffiji, Samoa a Namibia yng Ngrŵp D.

Y gemau ar S4C

Cymru v De Affrica – 11 Medi

Cymru v Samoa – 18 Medi

Cymru v Namibia – 26 Medi

Cymry v Ffiji – 2 Hydref

Gemau gogynderfynol – 8 a 9 Hydref

Gemau gynderfynol – 15 a 16 Hydref

Y Ffeinal Efydd – 21 Hydref

Y Ffeinal – 23 Hydref