Fe fydd y pum athro oedd yn absennol o Ysgol Goronwy Owen oherwydd salwch y tymor diwethaf yn dychwelyd ar ddechrau’r tymor newydd.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Môn wrth Golwg360 y bydd yr athrawon yn ôl yn yr ysgol ar ddydd Iau, 1 Medi.

Roedd yr athrawon wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder drwy undeb UCAC am y brifathrawes, Ann Hughes, ym mis Mai.

Mewn datganiad dywedodd yr athrawon o Ysgol Gynradd Goronwy Owen fod y “sefyllfa yn yr ysgol ar hyn o bryd yn gwbl annioddefol ac yn cael effaith andwyol ar ein hiechyd”.

“Rydym yn byw mewn awyrgylch o ofn fydd yn cael effaith niweidiol ar ein gallu i wneud ein priod waith,” medden nhw

Anfonodd y Cyngor Sir brifathro arall i’r ysgol ac fe gafodd Ann Hughes ei atal o’i gwaith dros dro wrth i Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Ynys Môn arwain ymchwiliad i’r achos.

Roedd hynny’n golygu fod rhaid i’r Cyngor Sir dalu cyflogau prifathro a pum athro llanw yn yr ysgol, yn ogystal â’r athrawon oedd yn sâl a’r prifathro oedd wedi ei atal o’i gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn fod y sefyllfa yn Ysgol Goronwy Owen “yn un unigryw, nas gwelwyd erioed o’r blaen ar Ynys Môn.”

“Ond mae cryn waith wedi ei wneud i lunio cynllun cadarn ar gyfer rheoli a chynnal yr ysgol yn ystod cyfnod yr ymchwiliad; ac rydym yn gwbl argyhoeddedig bod yr ysgol, o dan arweiniad dau bennaeth profiadol, mewn sefyllfa i ddarparu addysg o’r safon orau i’r disgyblion,” meddai wrth Golwg 360.

Y penaethiaid yw Gareth Hughes, Pennaeth Ysgol Y Borth, Porthaethwy a Peter Thomas, a oedd yn Bennaeth Ysgol Gynradd Amlwch cyn ei ymddeoliad.

Yn ôl y llefarydd, “mae’r ymchwiliad yn parhau ac fe fyddai yn amhriodol gwneud sylw pellach”.

‘Ychydig o normalrwydd’

Dywedodd y cynghorydd Barrie Durkin wrth Golwg360 ei fod yn “falch bod yr ysgol yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.”

“Y cam cyntaf yw bod yr athrawon wedi dod yn ôl ac mae’n gam mawr,” meddai.

“Bydd beth sy’n digwydd nesaf yn cael ei benderfynu yn y gwrandawiad. Ond, dw i’n fwy na hapus gyda’r ffordd mae pethau yn datblygu.

“Dw i yn pryderu am faint o amser mae wedi ei gymryd i ddatrys hyn. Ond, o leiaf nawr, rydan ni’n symud ymlaen.

“Y gobaith wrth gwrs yw na fydd yn effeithio ar addysg y plant yn ormodol.”