Jamie Bevan o flaen y llys
Mae ymgyrchydd iaith wedi ei garcharu am wythnos heddiw ar ôl cymryd rhan mewn protest yn erbyn toriadau i gyllideb S4C.

Jamie Bevan, 35 mlwydd oed o Ferthyr Tudful, yw’r ymgyrchydd cyntaf i gael ei garcharu dros ddyfodol darlledu Cymraeg ers bron i 30 mlynedd, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Torrodd Jamie Bevan i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad.

Torrodd ef a Heledd Melangell Williams i mewn ar 6 Mawrth – y diwrnod yr oedd y Prif Weinidog, David Cameron, yn cyfarch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn y brifddinas.

Roedd ei weithred yn rhan o ymgyrch y mudiad yn erbyn toriadau i gyllideb S4C a rhoi’r sianel dan adain y BBC.

Cafodd ei ddedfrydu i wythnos o garchar yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw.

Dywedodd y Barnwr Bodfan Jenkins nad oed ganddo “unrhyw ddewis” ond anfon Jamie Bevan i’r carchar.

Roedd Jamie Bevan wedi gwrthod talu £1,000 o iawndal na chwaith cadw at hwyrgloch 28 dydd.

“Mae’r gwleidyddion yn Llundain yn parhau i anwybyddu’r holl fudiadau a lleisiau yng Nghymru parthed S4C, ac maent yn parhau yn eu sarhad o’n genedl fach,” meddai Jamie Bevan.

“Gweithredais i ddim er fy lles fy hun. Anwybyddais i ddim y cyrffiw er lles fy hun. Ac nid er lles fy hun dwi’n gwrthod talu dirwyon na chostau.

“Gweithredais, ac rydw i’n parhau i weithredu, yn egwyddorol, heb hunan gyfiawnder, yn gwbl hyderus fy mod i’n gwneud yr unig beth y gallaf wneud o dan yr amgylchiadau annemocrataidd rydym yn wynebu.

“Yn eu cais gwreiddiol i atal mechnïaeth dywedodd yr heddlu nad oedd gen i unrhyw fath o barch tuag at gyfraith a threfn.

“Gai ddweud, yr ydw i’n byw rhan helaeth o fy mywyd yn gyfreithiol ac yn drefnus, yn gweithio llawn amser, a mwy, yn dad cyfrifol a chariadus.

“Ond dydw i ddim yn parchu trefn a chyfraith sydd yn dewis a dethol pwy maent am amddiffyn ac sydd yn dewis pryd i weithredu’n ddemocrataidd neu beidio.

“Nid oes unrhyw annhegwch cymdeithasol erioed wedi newid trwy dderbyn yn llwfr y rheolau a osodwyd gan yr ychydig sydd yn warchod dim ond buddiannau hunanol eu hun. Rhaid wrth wthio a chicio yn erbyn y tresi os ydyn am weld newid go iawn a newid er budd ein cymunedau.”