Mae’r RSPCA a’r heddlu yn ymchwilio ar ôl i sawl gwylan farw at ôl bwyta “sglodion gwenwynig”.

Cafodd o leiaf tri o’r adar eu lladd ac roedd angen triniaeth ar saith arall wedi i’r adar fwyta’r sglodion amheus ar draeth y Rhyl.

Roedd archwiliad post-mortem yn awgrymu fod pob un wedi bwyta sglodion oedd yn cynnwys gwenwyn.

“Rydyn ni’n amau fod sawl gwylan wedi ei wenwyno dros y penwythnos,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych.

“Roedd gwylwyr y glannau ac aelodau o’r cyhoedd wedi codi pryderon ddydd Sadwrn ar ôl i wylanod syrthio ar y traeth yn Rhyl.

“Roedd y gwylanod yn crynu drostynt ac yna wedi llewygu.

“Penderfynodd yr heddlu a’r RSPCA gau rhan o’r traeth nes eu bod nhw’n dod o hyd i beth achosodd y farwolaeth.

“Fe fu farw o leiaf tri o’r adar ac mae’r gweddill wedi eu trin gan filfeddygon lleol a’r RSPCA.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA fod y gwylanod wedi mynd yn sâl yn syth a’u bod nhw eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y sglodion yn cael eu gadael ar y traeth yno.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r RSPCA ar 0300 1234999.

Mae lladd neu anafu gwylan yn drosedd dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.