Y siop trin gwallt
Cafodd gwraig weddw 92 oed ei tharo gan fwled ar ôl herio dyn oedd yn bygwth ei wraig â dryll, datgelwyd heddiw.

Neidiodd y wraig weddw o’i chadair a chicio bwrdd i’r llawr wedi i Darren Williams, 45, gamu i mewn i siop trin gwallt Carol-Ann yng Nghasnewydd.

Dywedodd yr heddlu ei fod wedi tanio gwn hela i gyfeiriad ei wraig, Rachel Williams, 37. Tarodd hi yn ei phen glin ac fe gafodd y pensiynwraig a chwsmer arall eu taro wrth i’r baledi adlamu.

Daethpwyd o hyd i gorff Darren Williams mewn coedwig chwe awr yn ddiweddarach.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu ei fod wedi dioddef dros yr wythnosau diwethaf wrth i’w briodas chwalu ac roedd angen triniaeth feddygol broffesiynol arno.

Mae’r ddynes 92 oed, sydd heb ei henwi, wedi ei rhyddhau gan Ysbyty Brenhinol Gwent erbyn hyn.

Cafodd Rachel Williams ei thrin yno hefyd, ond mae bellach wedi ei symud i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

‘Dewr’

Dywedodd Peter Heathcote, 42, sy’n berchen siop anifeiliaid anwes gerllaw, ei fod wedi rhedeg i mewn i’r siop trin gwallt ar ôl cael gwybod am y saethu.

“Doedd gen i ddim syniad beth oedd wedi digwydd. Fe glywais i fod pobol wedi eu saethu a doeddwn i ddim yn gwybod a oedden nhw’n fyw neu yn farw,” meddai.

“Roedd Rachel yn gorwedd ar y llawr, ond yn dawel iawn o ystyried beth oedd wedi digwydd.

“Roedd ddynes 92 oed yno oedd wedi ei tharo yn ei phen ar ôl i un o’r bwledi adlamu. Roedd hi wedi cicio bwrdd i’r llawr a cheisio herio’r dyn oedd â’r dryll.

“Mae’n anhygoel pa mor ddewr oedd hi.

“Roedd y ddynes yn poeni am nad oedd hi eisiau i’r doctoriaid eillio ei gwallt, am ei bod hi newydd gael ei dorri yn dwt.

“Roedd llawer iawn o ddryswch ar ôl y saethu. Llewygodd un ddynes. Doedd neb yn gallu credu beth oedd wedi digwydd.

“Roedd y gwn yno gerllaw. Roedd yn wn hela hynafol a choeth yr olwg.”