Llys y Goron Caerdydd
Cafodd dynes a oedd wedi hawlio £25,000 mewn taliadau anabledd ei ffilmio yn nofio ar ei gwyliau, clywodd llys heddiw.

Ymddangosodd Tina Attanasio o flaen Llys y Goron Caerdydd heddiw, gan gyfaddef i un cyhuddiad o dwyll.

Clywodd y barnwr fod y ddynes 51 oed o Ystâd Hollybush, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, wedi hawlio taliadau anabledd rhwng mis Awst 2005 a mis Chwefror y llynedd.

Dywedodd yr erlynydd Nick Gedge nad oedd y diffynnydd wedi dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau fod ei hamgylchiadau wedi newid, ac wedi pocedu £25,000 na ddylai fod wedi ei dalu iddi.

Plediodd Tina Attanasio, oedd ar faglau, yn euog cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd yr achos llys ei oedi nes 16 Medi er mwyn rhoi cyfle i’r gwasanaeth prawf gynhyrchu adroddiad cyn-dedfrydu.

Dywedodd y Barnwr Stephen Hopkins QC y bydd y llys yn cael gweld cyfres o glipiau fideo o Tina Attanasio ar ôl dychwelyd.

Mae’r ffilm ddaeth i law swyddogion cudd yn cynnwys delweddau ohoni’n nofio ar wyliau.

Dywedodd yr Arglwydd Freud, gweinidog diwygio budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau fod yr achos yn dangos pwysigrwydd newid y system.

“Mae twyll fel hyn yn cymryd arian oddi ar y rheini sydd ei angen,” meddai. “Mae yna drosedd ac rydyn ni’n benderfynol o’i atal drwy ddal troseddwyr a gwneud yn siŵr ei fod yn anoddach camddefnyddio y system budd-daliadau.”