Pencadlys Heddlu De Cymru
Ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyffuriau sy’n pryderu pobol de Cymru fwyaf, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg yn awgrymu fod y rhan fwyaf o bobol de Cymru yn credu fod yr heddlu yn mynd i’r afael â’r problemau yn eu hardal nhw.

Yn ôl yr arolwg gan Awdurdod Heddlu De Cymru, mae 57% o’r rheini sy’n byw yn nalgylch yr heddlu yn credu eu bod nhw yn mynd i’r afael â’r problemau sy’n eu pryderu nhw, a 30% yn credu fel arall.

Dywedodd cadeirydd yr awdurdod, Russell Roberts, fod yr heddlu cymunedol wedi bod yn mynd i’r afael â phryderon pobol leol.

“Mae gennym ni heddlu ym mhob ardal er mwyn tawelu meddyliau trigolion,” meddai.

“Rydyn ni’n bwriadu parhau i wneud hyn er bod gennym ni lai o nawdd.

“Mae nifer y bobol oedd yn dweud eu bod nhw’n dioddef o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein pryderu ni.

“Mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn mynd i fod yn broblem. Fe fyddwn ni’n parhau i wrando ar ein cymunedau a gwneud beth y maen nhw’n meddwl sydd orau.”

Meddw

Yn ôl yr arolwg roedd 62% yn credu fod pobol yn delio neu ddefnyddio cyffuriau yn yr ardal yn broblem fawr. Roedd 67% o drigolion Rhondda Cynon Taf ac Abertawe yn credu hynny.

Roedd 53% yn teimlo fod ymddygiad meddw neu derfysglyd yn “broblem fawr” yn eu hardal.

“Mae yna ormod o bobol yn credu fod trosedd yn uchel yn ein cymunedau,” meddai Russell Roberts, sydd hefyd yn arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf.

“Mae ein ffigyrau yn dangos fod trosedd yn disgyn yn ein cymunedau ni. Ond dyw hynny ddim i weld wedi newid barn pobol fod lefel y troseddu yn parhau’n uchel.

“Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hynny yn y dyfodol.”

Holodd yr arolwg 796 o bobol ym mis Mehefin a Gorffennaf mewn archfarchnadoedd ledled de Cymru.