Huw Ceredig (llun y BBC)
Bydd angladd yr actor Huw Ceredig yn cael ei gynnal ym Mhen y Bont ar Ogwr heddiw.

Caiff yr angladd ei gynnal yng Nghapel y Tabrnacl yn y dref am 1pm.

Fe fu farw’r actor 69 oed ddydd Mawrth. Roedd yn fwya’ enwog am actio rhan Reg yn yr opera sebon Pobol y Cwm ar y BBC am 29 mlynedd.

Ond roedd hefyd wedi actio am flynyddoedd ar y llwyfan, ac mewn sawl rhaglen deledu, gan gynnwys Heartbeat a Z Cars, a’r ffilm gomedi Twin Town.

Cafodd ei eni yn Brynaman, ac roedd yn frawd i’r canwr, Dafydd Iwan, ac i’r Aelod Cynulliad, Alun Ffred Jones, ac Arthur Morris.

“Roedd wedi byw bywyd i’r eitha’ a heb fod yn edifar o gwbl am hynny,” meddai ei gyd actor, Emyr Wyn. “Roedd e hefyd yn ffrind da ac yn Gymro a chenedlaetholwr i’r carn.”