Y salon lle digwyddodd yr ymosodiad (PA)
Fe ddylai Darren Williams, y dyn a gafwyd yn farw mewn coedwig ger Casnewydd, fod wedi cael cymorth cyfreithiol, meddai ei deulu.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff y dyn 45 oed mewn coedwig yn y ddinas ddydd Gwener, ychydig oriau ar ôl iddo saethu at ei gyn wraig mewn salon gwallt.

Yn ôl Heddlu Gwent, roedd yr ymosodiad wedi digwydd ar ôl iddo fynd yno i herio’i wraig ynglŷn â diwedd eu perthynas.

‘Diodde’

“Mae Darren wedi diodde’ yn ystod yr ychydig wythnosau diwetha’ oherwydd chwalfa trawmatig ei briodas ac roedd arno angen dybryd am sylw meddygol proffesiynol,” meddai ei deulu mewn datganiad i’r wasg a’r cyfryngau.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall ynglŷn â’r digwyddiad.

Mae’r wraig yn parhau mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Gwent.