Map o gnol Casnewydd (Nilfannion CCA 3.0)
Mae tri pherson lleol yn cael eu holi am farwolaeth dyn 60 oed ar y stryd ynghanol Casnewydd.

Mae pedwar arall wedi cael eu harestio oherwydd amheuaeth fod y dyn wedi’i daro gan gar wrth iddo orwedd ar y stryd.

Fe ddigwyddodd y cyfan tua phedwar o’r gloch bore ddoe yn ardal Pillgwenlli yng nghanol y ddinas ac, ers hynny, mae Heddlu Gwent wedi bod yn cynnal archwiliad fforensig ac yn holi o dŷ i dŷ.

  • Dyn lleol 19 oed oedd y cynta’ i gael ei arestio i’w holi am yr ymosodiad sydd wedi ei alw’n un ffyrnig.
  • Yna fe gafodd dau ddyn 22 a 44 oed a dwy ddynes 18 a 46 oed eu cymryd i’r ddalfa i’w holi am gyhuddiadau o yrru’n ddiofal ac anystyriol ac am fethu ag aros ar ôl damwain.
  • Yn ddiweddarach, fe gafodd dynes 23 oed a dyn 25 oed eu harestio am yr ymosodiad.

Roedd ardal y digwyddiad yn Broad Street ynghau am gyfnod.