Ysbyty Brenhinol Gwent lle mae cyn gariad Darren Williams
Mae Heddlu Gwent wedi enwi’r dyn a gafwyd yn farw ar ôl saethu gwraig mewn salon gwallt yng Nghasnewydd.
Roedd Darren Williams yn 45 oed ac yn byw yng Nghwmbran ac fe ddaeth plismyn o hyd i’w gorff yng nghoedwig Brynglas yn y ddinas neithiwr.
Fe ddaeth yn amlwg hefyd mai cyn bartner Darren Williams yw’r wraig a oedd wedi ei saethu – mae hi’n dal i fod mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Fe gafodd dwy wraig arall a oedd yn salon gwallt Carol-Ann’s ar y pryd eu gollwng o’r ysbyty ar ôl triniaeth am fân anafiadau.
Ddim yn chwilio am neb arall
Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall ynglŷn â’r digwyddiad a ddechreuodd ychydig ar ôl dau o’r gloch brynhawn ddoe.
Fe fu plismyn yn chwilio am Darren Williams am rai oriau gan ddefnyddio hofrenyddion a chŵn.
Fe ddaethpwyd o hyd i’w gorff ychydig ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddweud ei fod wedi gweld car mini Cooper llwyd y dyn ger y goedwig.
Yn ôl yr heddlu maen nhw bellach yn edrych ar luniau teledu CCTV i drio dilyn symudiadau Darren Williams.