Heddlu'n ymchwilio y tu allan i'r salon (Gwifren PA)
Mae corff dyn a anafodd dair gwraig ar ôl saethu mewn salon gwallt yng Nghasnewydd a wedi ei gael mewn coedwig yn yr ardal.

Fe ddaeth Heddlu Gwent o hyd i’r corff ychydig wedi wyth o’r gloch neithiwr, chwech awr ar ôl iddo fynd i mewn i salon gwallt Carol-Ann’s ar Heol Malpas a saethu sawl gwaith.

Fe gafodd un wraig ei hanafu yn ei choes a dwy arall fân anafiadau ond, yn ôl pobol leol, roedd hi’n rhyfeddod na chafodd neb ei ladd.

Mae’r heddlu hefyd wedi dod o hyd i gar y dyn ac i ddryll ond dydyn nhw ddim yn chwilio am neb arall ynglŷn â’i farwolaeth ef.

Roedd Heol Malpas ynghau am rai oriau ddoe wrth i’r heddlu ymchwilio ac fe gafodd hynny effaith ar fusnesau yn yr ardal.

‘Ffrae deuluol’

Yn ôl cynghorydd yr ardal, roedd pobol leol yn credu mai ffrae deuluol oedd y tu cefn i’r ymosodiad a bod y dyn wedi mynd i chwilio am un o’r merched sy’n gweithio yn y salon.

“Mae’n rhyfeddod n chafodd neb ei ladd,” meddai. “Pobol hŷn yw’r rhaan fwya’ sy’n mynd i’r salon. Fe fyddai llawer o bobol oedrannus yno. Fe fydden nhw wedi cael eu ofn mawr.”

Roedd Heol Malpas fel rheol yn ardal dawel iawn, meddai wedyn.