Harley Ruck (llun o dudalen goffa ar y We)
Doedd yna ddim bai ar y gwasanaethau cyhoeddus am ferch fach a gafodd ei lladd gan ei mam ym mis Tachwedd y llynedd.

Dyna gasgliad adroddiad gan Fwrdd Diogelu Plant Sir Fynwy yn achos Harley Ruck o’r Fenni a gafodd ei thrywanu’n farw bedwar niwrnod cyn ei phen-blwydd yn un oed.

Mae ei mam, Jade Ruck, yn cael ei chadw mewn ysbyty’n amhenodol ar ôl pledio’n euog i ddynladdiad ei merch.

Er bod yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am y ddwy ac wedi ymweld â nhw, yn ôl yr adroddiad, doedd yna ddim arwyddion o beryg i’r plentyn.

Yn fuan ar ôl y lladd, fe ddaeth yn amlwg nad oedd Harley Ruck ar restr y cyngor sir lleol o blnt mewn peryg.

Yn ôl cymdogion ar y pryd, roedd Jade Ruck wedi bod yn isel ar ôl i’w pherthynas chwalu gyda thad Harley.