Mae bachgen gafodd ei drywanu gan un o gyrn ei feic yn dod ato’i hun.

Bu’n rhaid i Evan Williams, 10 oed, gael llawdriniaeth yn dilyn damwain ar bromenâd traeth Aberafan ym Mhort Talbot, ddoe.

Roedd y bachgen wedi bod yn seiclo gyda’i fam pan syrthiodd, ac fe aeth un o gyrn ei feic drwy ei gorff.

Aethpwyd ag ef i Ysbyty Treforys, a dywedodd gwylwyr y glannau fod yr anafiadau yn “rhai cas iawn”.

“Mae Evan mewn cyflwr sefydlog ac yn dod ato’i hun mewn gwely yn Ysbyty Treforys,” meddai llefarydd.

Dywedodd y Sefydliad Bad Achub Brenhinol ym Mhort Talbot eu bod nhw wedi anfon neges “brysia wella” at y bachgen.

“Roedden ni wedi cyrraedd yr un pryd a’r parafeddygon,” medden nhw.

“Roedd criw’r ambiwlans wedi delio â’r anafiadau, ond roedd gwylwyr y glannau o gymorth wrth sicrhau fod pawb yn cadw draw.

“Roedd llawr iawn o bobol wedi dod draw i weld pam fod hofrennydd wedi glanio ar y traeth.

“Roedd yn anaf cas iawn ac rydyn ni wedi anfon ein dymuniadau gorau at y bachgen ac yn gobeithio y bydd yn gwella yn fuan.”