Mae canran yr ymgeiswyr a enillodd radd A* neu A yng Nghymru wedi gostwng eleni.

Roedd cynnydd bach yng nghanran y myfyrwyr yng Nghymru a lwyddodd i ennill gradd o A* – E, o 97.1% yn 2010 i 97.2% eleni.

Ond gostyngodd canran yr ymgeiswyr a enillodd radd A* fymryn, o 6.5% i 6.3%, tra bod cyfran yr ymgeiswyr a enillodd raddau A wedi gostwng o 24.4% y llynedd i 23.9% eleni.

Dyna’r lefel isaf yng Nghymru ers pum mlynedd.

Ar draws Prydain enillodd 8.2% o’r ymgeiswyr radd A* a 27.0% radd A.

Daw’r canlyniadau ymysg pryderon y bydd ennill lle mewn prifysgol yn anoddach nag erioed o’r blaen oherwydd bod cymaint o alw eleni cyn codi ffioedd dysgu’r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Leighton Andrews y byddai yn gwneud ei orau i sicrhau fod pob myfyriwr yng Nghymru yn cyrraedd eu potensial.

“Mae yna lawer iawn o gystadleuaeth am lefydd mewn prifysgol, profiad gwaith a swyddi,” meddai Leighton Andrews.

“Bydd pethau’n mynd yn anoddach cyn iddyn nhw fynd yn haws.

“Mae’r bobol ifanc sy’n casglu eu canlyniadau heddiw yn cymryd y cam cyntaf tuag at ddiogelu eu dyfodol eu hunain.

“Rydw i eisiau gweld safon addysg yng Nghymru yn gwella. Rydw i eisiau i bob un o’n pobol ifanc lwyddo a chyrraedd eu potensial.”

Bechgyn v Merched

Tebyg iawn eleni oedd perfformiad y bechgyn a’r merched ar y radd A* uchaf, gyda 6.3% o ferched a 6.2% o fechgyn yn ei hennill, y ddau ffigur hyn fymryn yn is na 2010.

Fodd bynnag, er bod perfformiad y merched yn ennill y graddau A wedi gwella fymryn i 24.8%, gostwng wnaeth canran y bechgyn yn gwneud hynny o 24.3% yn 2010 i 22.7% eleni.

Yn gyffredinol, parhaodd y merched i berfformio’n well na’r bechgyn yng Nghymru, gyda 97.7% o gofrestriadau pwnc y merched yn ennill graddau A*-E, o’i gymharu â 96.6% o gofrestriadau’r bechgyn.

Mae’r bwlch ehangaf ar y graddau B ac C, lle mae merched yn perfformio’n well na’r bechgyn o 5 i 6 phwynt canrannol.

Ieithoedd ar drai

Roedd nifer y myfyrwyr ymgeisiodd am Lefel A Cymraeg iaith gyntaf yr un nifer a’r llynedd ond roedd cynnydd o 12% yn nifer y disgyblion Cymraeg Ail Iaith.

Cynyddodd nifer y rheini enillodd radd A mewn Cymraeg Iaith Gyntaf o 22.9% i 24.7%, a chynyddodd nifer y rheini enillodd radd A* o 5% i 5.3%.

Enillodd yr un faint o’r myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith radd A a’r llynedd, sef 16.5%, ond roedd cynnydd yn nifer y rheini a enillodd radd A*, o 2.6% i 3.2%.

Roedd cynnydd o rhwng 7% a 15% mewn Bioleg, Cemeg, Economeg, Hanes, Astudiaethau Crefyddol, Sbaeneg.

Ond parhau wnaeth y tuedd cyffredinol ar i lawr yng nghofrestriadau’r Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yn achos Ffrangeg ac Almaeneg.

Pwnc Ymgeiswyr Canran Gradd A*-E Canran Gradd A Canran Gradd A*
2010 2011 2010 2011 2010 2011 2010 2011
Hanes 2776 2964 99.4 99.4 25.3 24.3 5.5 4.1
Cymraeg Iaith Gyntaf 362 360 99.4 99.4 22.9 24.7 5.0 5.3
Drama 922 881 98.9 98.8 16.9 14.2 4.1 2.2
Celf 2247 2242 98.7 98.6 30.7 30.7 12.9 12.3
Cerddoriaeth 689 663 98.7 98.5 20.3 18.4 2.6 3.5
Saesneg 3732 3529 98.4 98.5 20.3 19.8 6.7 5.5
Economeg 443 509 98.2 96.3 32.3 28.7 6.1 9.0
Aaearyddiaeth 1732 1744 98.2 98.2 22.9 22.9 4.6 5.2
Y Cyfryngau 1380 1403 97.9 98.6 14.6 10.2 2.0 0.8
Crefydd 1345 1489 97.5 98.0 21.2 20.5 3.9 3.5
Cymraeg Ail Iaith 496 558 97.4 97.7 16.5 16.5 2.6 3.2
Cemeg 2132 2333 97.3 97.3 32.8 33.0 8.5 8.2
Mathemateg 3362 3375 97.2 97.5 44.2 43.9 13.1 15.5
Technoleg 1013 1038 97.1 96.2 11.0 12.5 2.6 2.1
Almaeneg 209 179 97.1 98.9 33.0 32.4 8.6 8.9
Ffrangeg 711 641 96.9 96.6 32.2 30.6 5.3 4.5
Busnes 1025 1030 96.8 96.2 16.6 18.0 3.5 3.1
Chwaraeon 1093 1004 96.5 95.1 12.9 12.2 2.8 3.3
Beioleg 2712 2924 96.2 95.7 25.4 26.1 5.5 6.0
Cymdeithaseg 1294 1320 96.2 97.4 23.3 20.4 6.6 4.6
Sbaeneg 220 244 95.5 95.1 30.5 26.6 5.9 5.7
Ffiseg 1450 1453 95.1 96.7 27.2 25.7 8.1 6.2
Cyfrifiadureg 1849 1805 94.6 94.3 11.7 11.7 2.1 1.4
Seicoleg 1730 1790 94.2 94.3 13.9 13.3 3.9 2.8
Cyfraith 769 813 92.3 95.1 24.1 19.2 6.2 6.0