Kyle Eastwood (llun o'i wefan)
Bydd Kyle Eastwood, mab yr actor a’r cyfarwyddwr enwog Clint, yn dod i berfformio yn nhref Machynlleth yr wythnos nesaf.

Mae trefnwyr Gŵyl Machynlleth wedi llwyddo i ddenu’r cerddor jazz i chwarae yn y Tabernacl nos Fercher nesaf, yn rhan o wythnos yr ŵyl.

Mae Kyle Eastwood yn enw mawr ar y sîn jazz fel basydd a chyfansoddwr ac mae wedi cyfansoddi ar gyfer nifer o ffilmiau ei dad, gan gynnwys Gran Torino, Million Dollar Baby, Changeling ac Invictus.

“Mae ymddangosiad Kyle a’i fand ym Machynlleth yn anrhydedd gyffrous i’r ŵyl ac i’r dref,” meddai David Ian Rabey, sy’n cynghori Gŵyl Machynlleth ar arlwy’r noson jazz ar y cyd â Charmian Savill.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Awst