Gwartheg
Mae pris tir amaethyddol yng Nghymru’n uwch na phob rhanbarth ond un yng ngweddill gwledydd Prydain, yn ôl y ffigurau diweddara’.

Er bod y pris wedi syrthio 2% yma yn hanner cynta’r flwyddyn, mae’n parhau tua £6,500 yr erw – bron £400 yn uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.

Yn ôl rhai gwerthwyr tir unigol yng Nghymru, mae clytiau cymharol fach o dir – hyd at 50 erw – yn costio mwy fyth, gyda’r prisiau’n gallu codi cyn uched ag £8,000 yr erw.

Maen nhw’n dweud bod ffermwyr yn defnyddio’u tir presennol i godi arian er mwyn prynu rhagor.

Dim ond yng ngogledd orllewin Lloegr y mae’r pris yn uwch nag yng Nghymru.

‘Yr ucha’ erioed’

Yn gyffredinol, mae pris tir ffermio’n uwch nag erioed o’r blaen, yn arbennig pan nad oes tŷ fferm ynghlwm wrtho.

Yn ôl Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Siartredig (RICS), sy;n crynhoi’r ffiguraau, mae’n debyg o godi ymhellach yn ystod gweddill y flwyddyn.

Cynnydd mewn galw ac ym mhrisiau cnydau, da byw a nwyddau sylfaenol yw’r rheswm, meddai’r Sefydliad.

‘Sicr o godi eto’

“Gyda phrisiau nwyddau sylfaenol yn parhau’n uchel iawn, mae llawer o ffermwyr masnachol yn ymddangos yn fwy awyddus i ehangu eu busnesau yn hytrach na gwerthu’u tir,” meddai llefarydd y Sefydliad, Sue Steer.

“Mae hyn yn sicr o arwain at brisiau uwch fyth yn ystod y 12 mis nesa’.”