Simon Richardson
Mae dyn 59 oed o ardal y Bont-faen wedi ei arestio ar ôl i seiclwr Paralympaidd gael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad, meddai’r heddlu.

Dywedodd gwraig Simon Richardson, 44, ei fod mewn cyflwr “bregus ond sefydlog” yn yr ysbyty.

Enillodd Simon Richardson MBE, o Borthcawl, ddwy fedal aur ac un arian yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008.

Roedd yn seiclo i’r dwyrain ar hyd yr A48 am 9.40am heddiw pan gafodd ei daro gan fan wen oedd yn mynd i’r un cyfeiriad.

Cafodd Simon Richardson ei daflu o’i feic i ochor y ffordd. Gyrrodd y fan yn ei flaen i gyfeiriad y Bont-faen heb stopio, meddai’r heddlu.

Nid dyma’r tro cyntaf i Simon Richardson ddioddef o ganlyniad i wrthdrawiad â char. Yn 2001 dioddefodd anafiadau difrifol i’w goes a’i gefn wrth seiclo â’i ffrindiau.

Parhaodd i seiclo ar ôl i ddoctoriaid ddweud y byddai yn help iddo ddod ato’i hun, gan ddefnyddio beic arbennig sy’n cael ei bweru gan ei goes ddoe yn unig.

Aeth yn ei flaen i ennill medal aur cyntaf Prydain yn Beijing a thorri record byd yn y ras yn erbyn amser LC3/4 1km.

Y ddamwain

Gwrthdarodd dau gar arall, Toyota Avensis Estate du, a Rover 25 aur yn fuan ar ôl y gwrthdrawiad cyntaf. Roedd dyn 43 oed yn gyrru’r car cyntaf a dynes 74 oed yn gyrru’r ail.

Galwyd y gwasanaethau bryd a chafodd Simon Richardson a’r gyrrwr benywaidd driniaeth feddygol yn y fan a’r lle.

Aethpwyd a Simon Richardson mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Aethpwyd a’r gyrrwr benywaidd i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen y Bont ar Ogwr a derbyn triniaeth am anafiadau i’w brest. Cafodd ei rhyddhau brynhawn ddoe.

Mae’r heddlu eisiau siarad ag unrhyw un welodd y gwrthdrawiad. Cafodd y ffordd ei gau am bedair awr wrth i’r heddlu ymchwilio.