Mae bachgen 10 oed gafodd ei drywanu gan gyrn ei feic wedi ei hedfan i’r ysbyty.

Roedd y bachgen wedi bod yn seiclo ar hyd promenâd traeth Aberafan, Port Talbot, gyda’i fam pan ddigwyddodd y ddamwain bore ma.

Disgynnodd y bachgen oddi ar y beic ar ramp sglefr fyrddio ac fe aeth un o gyrn y beic drwy ei fol.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Abertawe fod y ddamwain wedi digwydd tua 11.40am.

Roedd tîm achub Gwylwyr y Glannau Port Talbot ac Aberafan wedi eu galw yno.

Does dim manylion eto am gyflwr y bachgen.