Mae diweithdra yng Nghymru yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.

Cynyddodd nifer y rheini oedd yn ddi-waith yng Nghymru 10,000 – sef 8.4% o’r gweithlu.

Dim ond 7.9% o weithlu Lloegr, 7.9% o weithlu’r Alban, a 7.3% o weithlu Gogledd Iwerddon sy’n ddi-waith.

Yn ogystal â hynny cynyddodd nifer y bobol sydd ar y dôl yng Nghymru, 2,100 i 77,000.

Mae 7% o weithlu Blaenau Gwent ar y dôl, ond dim ond 1.8% o weithlu Ceredigion.

‘Siomedig’

Dywedodd gweinidog busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, fod y ffigyrau yn siomedig a’u bod nhw’n dangos pa mor anwadal yw’r economi.

“Mae’r rhan fwyaf o’r grymoedd dros yr economi yn nwylo Llywodraeth San Steffan,” meddai.

“Serch hynny rydw i’n benderfynol fod Lywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei angen er mwyn caniatáu i fusnesau dyfu a ffynnu yng Nghymru.”

Dywedodd Plaid Cymru fod y ffigyrau yn brawf pellach fod angen i Lywodraeth San Steffan ddatganoli grymoedd dros dreth gorfforaethol i Gymru.

“Mae polisïau economaidd Llywodraeth San Steffan wedi methu a does gan yr un o bleidiau Llundain unrhyw syniadau ynglŷn â sut i adfer economi Cymru,” meddai’r Aelod Seneddol, Jonathan Edwards.

“Mae angen i Gymru allu rheoli ei ffawd economaidd ei hun drwy ddatganoli rhai o’r liferi economaidd hanfodol.

“Mae’r rheini yn cynnwys y grym i ostwng treth gorfforaethol a fformiwla nawdd teg sy’n seiliedig ar angen.”