Mae papur newydd am ddim y Bangor Mail yn bwriadu codi pris ar ei ddarllenwyr o ddiwedd y mis ymlaen.

Dywedodd cyhoeddwyd y papur newydd y bydd yn cael ei ailwampio yn helaeth cyn y lansiad ar 22 Awst, ddydd Llun nesaf.

Mae papur newydd y Holyhead & Anglesey Mail hefyd wedi ei ailwampio ac fe fydd yn parhau i godi tâl ar ddarllenwyr.

Mae’r newid yn golygu fod rhai talu am bob un o bapurau newydd Trinity Mirror yng ngogledd Cymru.

“Mae Bangor yn dref falch â chymeriad cryf, busnesau blaengar a phrifysgol o safon uchel,” meddai cyfarwyddwr cyhoeddi cangen gogledd Cymru Trinity Mirror.

“Mae’r ddinas yn haeddu papur newydd wythnosol o safon y mae’n werth talu amdano.

“Rydyn ni wedi cael ymateb da iawn i’r penderfyniad ymysg ein darllenwyr, ein hysbysebwyr ac arweinwyr cymunedol y ddinas.”

Mae gan y papur newydd gylchrediad o tua 8,529 ar hyn o bryd. Mae tua 1,610 copi yn cael eu gwerthu am 80c.

Enillodd y Bangor Mail wobr ‘Papur am ddim gorau Cymru 2007’.