Senedd Cymru
Mae Llywodraeth Cymru dan y lach ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd costau cytundeb techneolegol gwerth miliynau wedi eu monitro yn gywir.

Mae adroddiad newydd gan gorff gwarchod gwariant yn dangos fod £220 miliwn wedi ei roi o’r neilltu dros gyfnod o 10 mlynedd er mwyn talu am wasanaeth TG Merlin.

Ond dywedodd archwiliwr cyffredinol Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £270 miliwn yn y saith mlynedd gyntaf.

Daeth i’r casgliad ei fod yn “ansicr” a oedd y llywodraeth wedi cael gwerth eu harian o’r cytundeb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi beio’r costau ychwanegol ar newidiadau strwythurol mawr, ond mynnodd fod eu gwasanaethau TG yn cael eu cyflwyno’r effeithiol.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar gyllid, y Ceidwadwr Paul Davies, ei fod yn pryderu’n fawr am y ffigyrau.

“Dyw canlyniadau’r adroddiad ddim yn rhoi unrhyw hyder i mi fod Llywodraeth Cymru yn cael gwerth eu harian,” meddai.

“Mae hwn yn gytundeb hynod gostus ac ofnadwy o bwysig ac yn gofyn am archwiliad manwl. Dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw wedi gwneud hynny.

“Fe fydd trethdalwyr eisiau gwybod pam nad ydyn nhw yn siŵr a ydyn nhw’n gwerthu eu harian ar ôl gwario miliynau.”

‘Cadw llygad’

Dechreuodd cytundeb Merlin Llywodraeth Cymru â chwmni Siemens yn 2004.

Yn ei adroddiad dywedodd Huw Thomas, yr Archwiliwr Cyffredinol, nad oedd Llywodraeth Cymru wedi “monitro’n effeithiol” y costau a gwerth am arian “y gwasanaethau a ddarperir o dan y cytundeb”.

Cynyddodd cost y “gwasanaeth craidd” o £9 miliwn yn 2004/5 i £14 miliwn yn 2010/11.

Cynyddodd cost gwasanaethau er mwyn cynnal prosiectau TG o £10 miliwn i £32 miliwn yn ystod yr un cyfnod.

“Mae’n braf gweld fod safon y gwasanaeth sydd wedi ei ddarparu gan gytundeb Merlin wedi cynyddu dros amser,” meddai Huw Thomas.

“Serch hynny mae angen i Lywodraeth Cymru gadw llygad ar wariant a gwerth am arian y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y cytundeb.”