Huw Ceredig fel Reg Harries yn Pobol y Cwm
Ni welodd Cymru y gorau o Huw Ceredig fel actor, yn ôl Ifan Huw Dafydd.

Fe fu farw Huw Ceredig heddiw, ac fe fydd yn cael ei gofio yn bennaf am chwarae rhan Reg Harries ar opera sebon Pobol y Cwm am 29 mlynedd.

Dywedodd Ifan Huw Dafydd, a fu’n chwarae rhan Dic Deryn ar yr opera sebon yn ystod y cyfnod hwnnw, ei fod wedi colli un o’i ffrindiau gorau.

“Mae Cymru wedi colli cawr o ddyn ac uffarn o actor da,” meddai Ifan Huw Dafydd. “Roeddwn i’n credu y byddai yn mynd am byth, a’i fod yn unstoppable.

“Roedd yn actor gwych a dydw i ddim yn credu fod Cymru wedi gweld ei orau fe.

“Roedd yn ffyddlon iawn i Bobol y Cwm ac os oedd unrhyw un yn beirniadu Pobol y Cwm fe fyddai Ceredig yn ei amddiffyn i’r carn.

“Ond wrth weithio ar y rhaglen ychydig iawn o waith arall ydych chi’n gallu ei gael.

“Roedd e mor siomedig i fod yn gadael Pobol y Cwm, oedd yn agos iawn at ei galon e.

“Roedd wedi bod yno ers cymaint o amser ac roedd beth ddigwyddodd pan adawodd e yn warthus dw i’n teimlo,” meddai gan gyfeirio at y ffaith ei fod wedi ei ysgrifennu allan o’r sioe yn erbyn ei ewyllus.

“Roedd Cymru wedi gweld y gorau ohono fel dyn ond nid fel actor. Roedd yn llawer mwy na Reg.”

Dylanwad

Dywedodd Ifan Huw Dafydd ei fod wedi dysgu mwy gan Huw Ceredig am weithio ym myd teledu na gan gan unrhyw actor arall.

“Dw i’n credu mai Stewart Jones a Huw Ceredig oedd y dylanwadau mwyaf arna i fel actor ac mae’r ddau wedi marw o fewn pythefnos i’w gilydd,” meddai Ifan Huw Dafydd.

“A dweud y gwir dw i’n siwr mai Huw Ceredig oedd wedi cael fy swydd gyntaf i fi ym myd teledu.

“Roedd yn un o’r actorion mwyaf hael i fi weithio â fe ac roedd yn credu’n gryf y dylai actorion sticio gyda’i gilydd. Roedd yn un o fy ffrindiau agosaf ac wedi edrych ar fy ôl i ar ôl i fi fynd i Bobol y Cwm.

“Mae actorion yn hunan gyflogedig a mae pawb wastad yn trio ein gwahanu ni ond roedd yn credu y dylai pawb uno a bod yn gytun os oedd unrhyw broblem ar set Pobol y Cwm.

“Os oedd yna unrhyw achos yn agos et ei galon roedd ei law yn syth i’w boced.

“Roedd yn ben wmbreth o sbort ac yn llanw lle bynnag yr oedd e. Roedd yn byw lan i’w enw, ac mae gen i atgofion melys iawn amdano.”

Er ei fod yn ddyn llawn hwyl dywedodd Ifan Huw Dafydd fod ochr ddwys iawn iddo a’i fod wedi gweld hynny pan fuodd ei fam a’r dad farw.

“Dw i’n cofio pam fuodd ei fam o farw fe gafon ni sgwrs ddwys iawn am ba mor agos oedd e at ei dad ac faint oedd e’n gweld ei eisiau fe,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn ddyn poblogaidd iawn ymysg gwylwyr Pobol y Cwm, yn ogsytal â gwylwyr y ffilm Twin Town.

“Rydw i’n cofio mynd â fe i Ŵyl Lyfrau Talacharn ble’r oedd e’n darllen rhan Fatty Lewis yn Twin Town o flaen torf fyw,” meddai.

“Roedd y lle yn llawn a’r cynulleidfa yn bloeddio’r llinellau cyn iddo gael cyfle i’w dweud nhw!”