Martin Evans
Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod cyn smyglwr cyffuriau sydd wedi ei gael yn euog o dwyll wedi ffoi o afael yr heddlu unwaith eto.

Dedfrydwyd Martin Evans, 49, dyn busnes o ardal Abertawe, i 21 mlynedd a thri mis yn y carchar am ei ran mewn cylch smyglo gwerth miliynau o bunnoedd.

Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar ar ben hynny am fethu a chydymffurfio â gorchymyn i atafaelu £4.5 miliwn o’r arian yr oedd wedi ei ennill drwy droseddu.

Heddiw cyfaddefodd Heddlu Wiltshire fod Martin Evans wedi methu a dychwelyd i’r carchar ar ôl cael ei ryddhau yng Nghymru am dri diwrnod.

Maen nhw wedi galw am gymorth y cyhoedd er mwyn dod o hyd iddo.

“Mae Martin Evans, sydd o dde Cymru yn wreiddiol, wedi bod yn garcharor yn Erlestoke er 2006,” meddai llefarydd.

“Cafodd ei ryddhau ar drwydded dros dro yn Abertawe rhwng 5 a 8 Awst, ond dyw e heb ddod yn ôl.”

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, Kevin Hegg, nad oedd Martin Evans yn “fygythiad unionyrchol” i’r cyhoedd ond ei fod yn bwysig dod o hyd iddo “cyn gynted a bo modd”.

“Mae ganddo gysylltiadau yn ne Cymru ac mae’n bosib ei fod wedi teithio ymhellach na hynny,” meddai.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.

Ffoi o i Sbaen

Nid dyma’r tro cyntaf i Martin Evans, a fu yn ddyn busnes Cymreig y flwyddyn, ffoi rhag yr awdurdodau.

Cyn wynebu llys am dwyll yn ymwneud â fferm estrys ffodd Martin Evans i Sbaen a dechrau bywyd newydd yn ddeliwr cyffuriau.

Roedd wedi twyllo 115 o bobol o’u harbedion bryd hynny, cyn ffoi o’r wlad gyda’i feistres.

Cafodd ei ddal flwyddyn yn ddiweddarach wrth hedfan i mewn i faes awyr John F Kennedy yn Efrog Newydd gan ddefnyddio pasbort ffug.

Clywodd Llys y Goron Abertawe yn 2006 ei fod wedi denu 115 o bobol oedd wedi buddsoddi £880,000 yn ei fferm estrys.

Chwalodd y cwmni 24 wythnos yn ddiweddarach oherwydd “lladrad ar raddfa fawr”.

Cyn gynted ag y daeth yr arian i mewn cafodd ei drosglwyddo i gyfrifon dros y môr.

Wrth iddo geisio osgoi cael ei ddal am y drosedd, smyglodd ecstacy a chocên werth o leiaf £3 miliwn i Brydain.