Cae Ras, Wrecsam
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi datgan y gallai’r clwb wneud colled o oddeutu £500,000 y tymor hwn.
Mae disgwyl y bydd gwerthiant y clwb i’r Ymddiriedolaeth Cefnogwyr gael ei gadarnhau yn yr wythnosau nesaf, wedi pleidlais gan holl aelodau’r Ymddiriedolaeth.
Mae manylion ariannol y ddêl a chostau’r clwb wedi eu darparu i’r aelodau cyn iddynt gael y cyfle i benderfynu ar y cynnig.
Ond mae aelodau’r ymddiriedolaeth a chefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam wedi eu rhybuddio y bydd rhaid gwneud penderfyniadau caled yn y dyfodol agos os yw’r clwb am oroesi.
Er eu bod yn amcangyfrif torfeydd o tua 3,000 ar gyfartaledd ar gyfer gemau cartref, maent yn dal i ragweld y bydd colledion o tua £500,000 y tymor yma.
Ar y llaw arall mae perchnogion presennol y clwb, Geoff Moss ac Ian Roberts, yn credu y gallai’r colledion fod yn agosach at £1 miliwn yn y 12 mis nesaf.
Gwerthwyd y Cae Ras a’r cyfleusterau ymarfer ym Mharc Colliers i Brifysgol Glyndŵr ar ddechrau’r mis.