Ryan Jones
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi’r garfan fydd yn wynebu’r Ariannin Ddydd Sadwrn yn gêm gyfeillgar olaf Cymru cyn Cwpan y Byd.

Ryan Jones fydd y capten yn absenoldeb Sam Warburton, sy’n cael ei orffwys.

Mae Gatland wedi gwneud naw o newidiadau i’r tîm drechodd Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm 19-9 ddydd Sadwrn.

Caiff Tavis Knoyle, Richard Hibbard a Martyn Williams (sy’n ennill ei 99ain cap) eu cyfle cyntaf i greu argraff ar y rheolwr cyn i’r garfan Cwpan Byd terfynol gael ei dethol Ddydd Llun. Mae Andy Powell wedi ei ddewis yn y garfan , ond fe fydd yn dechrau’r gêm ar y fainc.

Mae Adam Jones, Leigh Halfpenny a Lee Byrne yn ffit unwaith eto ac maent oll wedi’u dewis yn y tîm cyntaf i wynebu’r Ariannin.

Mae ffitrwydd y triawd yn hwb mawr i baratoadau Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, yn enwedig wedi nifer o anafiadau anffodus i rai o aelodau blaenllaw’r garfan yn ddiweddar.

Dioddefodd Adam Jones o anaf i fys bawd ei droed, tra bod Halfpenny wedi anafu ei ffêr a Lee Byrne wedi brifo ei ben glin.

Bydd Gatland yn siŵr o fod yn awyddus i roi amser iddynt ar y cae ar y penwythnos cyn yr ornest gyntaf yn erbyn De Affrica mewn llai na mis.

Cryfhau’r sgrym

Gall Cymru elwa’n sylweddol o ddychweliad Jones i’r rheng flaen wedi iddynt gael amser caled yn y sgrym wrth wynebu Lloegr ddwywaith yn ystod y pythefnos diwethaf.

Ni fydd pethau’n haws yn erbyn pac cryf yr Ariannin, nag yn erbyn deiliaid Cwpan y Byd, y springboc ar 11 Medi.

Ond wrth i’r rheini ddychwelyd i’r garfan, mae amheuon wedi codi dros ffitrwydd amryw o chwaraewyr eraill cyn y gêm gyfeillgar olaf ar Ddydd Sadwrn.

Mae Gethin Jenkins, Ryan Jones, Stephen Jones a Rhys Priestland oll wedi dioddef o anafiadau i groth y goes, ac fe fu rhaid iddynt brofi eu bod yn holliach yn ystod yr ymarferion ddoe.

Anaf Gethin Jenkins sy’n peri’rmfwyaf o bryder, wedi iddo frwydro yn erbyn anafiadau cyson i groth ei goes yn ystod y ddau dymor diwethaf.

Mae Jenkins heb chwarae i Gymru o gwbl ers colli yn erbyn Seland Newydd yn yr Hydref.

Anafiadau

Cyhoeddwyd ddoe y byddai Matthew Rees, capten Cymru, yn methu ymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd oherwydd anaf i’w wddf. Mae disgwyl y bydd rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth i gywiro’r broblem.

Datgelodd yr hyfforddwr, Shaun Edwards, faint o boen yr oedd Rees ynddo:

“Mae yna bethau pwysicach na rygbi, ac mae o mewn cymaint o boen, mae’n rhaid i’w iechyd ddod yn gyntaf. Mae’n methu cysgu ac mae o mewn poen yn gyson. Rhaid iddo wrando ar y doctor a gwlla.”

Gall Gavin Henson hefyd fod mewn perygl o fethu’r Cwpan Byd wedi iddo ddatgymalu asgwrn yn ei arddwrn wrth chwarae yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.

Fe all yr anaf gymryd 6 i 8 wythnos i wella, felly dyw’r rheolwr heb ddweud y naill ffordd neu’r llall a fydd modd i Henson chwarae yn Seland Newydd.

Mae Morgan Stoddart eisoes allan o garfan Cwpan y Byd wedi iddo dorri ei goes yn ail hanner yr ornest gyntaf yn erbyn Lloegr ar 6 Medi.

15 cyntaf

L Byrne (Clermont Auvergne), L Halfpenny (Gleision Caerdydd), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision Caerdydd), G North (Scarlets); J Hook (Perpignan), T Knoyle (Scarlets); P James (Gweilch), R Hibbard (Gweilch), A Jones (Gweilch), B Davies (Gleision Caerdydd), A-W Jones (Gweilch), D Lydiate (Dreigiau Casnewydd-Gwent), M Williams (Gleision Caerdydd), R Jones (Gweilch, capten)

Eilyddion

H Bennett (Gweilch), R Bevington (Gweilch), A Powell (Sale Sharks), J Tipuric (Gweilch), L Williams (Gleision Caerdydd), S Jones (Scarlets), A Brew (Dreigiau Casnewydd-Gwent).