e-coli (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae penaethiaid iechyd wedi rhybuddio’r cyhoedd i gymryd gofal yn dilyn pryderon fod naw o bobol bellach wedi eu heintio gan E.coli yn ne ddwyrain Cymru.

Ers i’r achosion cyntaf ddod i’r amlwg ddydd Gwener mai nifer yr achosion sydd wedi eu cadarnhau wedi codi o bump i saith.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i ddau achos posib arall ar hyn o bryd, ac maen nhw’n disgwyl cadarnhau rhagor o achosion heddiw a dros yr wythnosau nesaf.

Fe fyddai ganddyn nhw well dealltwriaeth o faint o bobol sy’n debygol o fod wedi eu heintio mewn ychydig ddyddiau, medden nhw.

Mae tri o bobol eisoes wedi gorfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty o ganlyniad i gael eu heintio.

Maen nhw mewn cyflwr sefydlog, meddai Dr Gwen Lowe, ymgynghorydd rheoli clefydau trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.

E.coli

Mae Cyngor Caerdydd wedi cau Adonis Kebab House ar Heol y Ddinas ers dydd Iau, rhag ofn mai dyna darddiad yr E.coli.

Does yr un ffynhonnell posib arall dan amheuaeth ar hyn o bryd.

Mae’r cyngor yn ymchwilio ar y cyd â chynghorau Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw wedi anfon llythyr at feddygon teulu ar draws y de ddwyrain yn esbonio beth sy’n digwydd.

Mae E.coli yn achosi poen abdomenol a dolur rhydd ond mewn rhai achosion difrifol mae arennau cleifion yn gallu methu.

Mae’r symptomau yn tueddu i amlygu eu hunain dau neu dri diwrnod ar ôl i’r person gael ei heintio, ond fe allai’r bacteria aros yn y corff am hyd at bythefnos heb ddangos unrhyw symptomau.

Dylai’r cyhoedd ofalu eu bod nhw’n golchi eu dwylo yn drylwyr, ac yn bod yn ofalus iawn wrth drafod cewynnau neu baratoi bwyd, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.