Courtney Pine ar y llwyfan ddoe
Ar ôl y ddau ddiwrnod cynta’, mae’n ymddangos bod prif ŵyl jazz Cymru’n llwyddiant.

Roedd cynulleidfaoedd llawn ar gyfer y rhan fwya’ o’r cyngherddau yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu yn y drydedd flwyddyn ers iddi gael ei hachub.

Yn ôl y trefnwyr, roedd yr argoelion yn dda ar ôl i’r rhan fwya’ o’r gweithgareddau gael eu symud i gampws ysgol fonedd y dref.

Er bod rhai o’r selogion yn colli’r gweld cyngherddau ar hyd a lled Aberhonddu, mae’n ymddangos bod y rhan fwya’n derbyn yr angen er mwyn cynnal yr ŵyl.

Erbyn hyn, mae gŵyl ymylol yn datblygu ynghanol y dref, gyda nifer o fandiau Cymreig a lleol yn cymryd rhan.

Ateb beirniadaeth

Mae’r trefnwyr hefyd wedi ymateb i feirniadaeth gan Gymdeiths Jazz Gogledd Cymru sy’n dweud bod prinder cerddorion Cymreig yn y cyngherddau. Un o’r prif amcanion, medden nhw, yw dod â cherddorion mawr i Gymru.

“Yn sicr, rydyn ni wedi bod yn gwthio’r holl berfformiadau o Gymru gymaint â phosibl,” meddai llefarydd ar ran cwmni Gŵyl y Gelli sydd bellach yn trefnu’r ŵyl yn Aberhonddu hefyd.

Roedd “llawer o gerddorion o Gymru”  ar y rhaglen.“Mae gyda ni Gareth Bonello a’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol a Emily Wright sydd wedi ei hyfforddi yng Nghymru,” meddai.

“Mae’n ŵyl sydd yn sicr yn dathlu cerddoriaeth Gymreig.  Ond, mae hefyd yn ŵyl arloesol sy’n denu perfformwyr amgylch y byd i Gymru.

“Rhan ohoni yw dod â’r perfformwyr mawr yma  i Gymru i bobol eu gweld yma. Mae’n bwysig iawn rhoi platfform i gerddorion o Gymru – ond rydyn ni’n awyddus iawn hefyd i roi cyfle i bobol weld perfformwyr nad ydyn nhw heb eu gweld o’r blaen.”

Enwau mawr

Ymhlith y perfformwyr mawr ddoe, roedd y sacsaffonydd o Lundain, Courtney Pine, y  pianydd Monty Alexander – sy’n dathlu 50 mlynedd o berfformio – ac un o hoelion wyth blŵs a jazz New Orleans, Allen Toussaint.

Gydag un cyfeiriad at y terfysgoedd yn ninasoedd Lloegr, fe ddywedodd Courtney Pine mai cerddoriaeth oedd wedi rhoi cyfeiriad a gobaith i’w fywyd ef.

“Os ydych chi am ysbrydoli’r ifanc,” meddai. “Dywedwch wrthyn nhw chwarae cerddoriaeth.”

Fe ddywedodd hefyd mai Aberhonddu oedd un o wyliau jazz gorau’r byd.