Pencadlys Cyngor Sir Benfro
Mae gan Gyngor Sir Benfro 50 diwrnod gwaith i ymateb i adroddiad damniol am eu methiant i ddiogelu plant.

Mae’r awdurdod ei hun wedi addo gweithredu ar unwaith ac maen nhw wedi sefydlu llinell gymorth ar gyfer plant  a rhieni sydd wedi eu heffeithio.

Fe fydd Llywodraeth Cymru’n anfon teem i gadw llygad ar y gwaith o newid y drefn.

Yn ogystal ag adroddiadau gan y corff addysg Estyn, roedd yr Arolygaeth Gwaith Cymdeithasol hefyd wedi cynnal ymchwiliad i ddulliau’r Cyngor o ystyried cwynion o gam-drin plant mewn ysgolion.

Roedd yr adroddiad yn dangos bod y Cyngor yn methu o ran diogelu plant wrth recriwtio gweithwyr ac wrth drafod achosion, gan ddweud fod uchel swyddogion wedi methu wrth arwain a rheoli a chynghorwyr heb arolygu’n ddigonol.

‘Dweud celwydd’

Dyma rai o’r casgliadau:

  • Mewn un achos, roedd ysgol wedi dweud celwydd – mewn geirda, fe ddywedson nhw fod gweithiwr wedi ymddiswyddo; mewn gwirionedd, roedd wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn rhywiol gyda phlentyn.
  • Weithiau, roedd staff yn cael eu symud yn hytrach na’u disgyblu.
  • Mewn rhai achosion honedig, doedd y plant eu hunain ddim yn cael cyfle i ddweud eu dweud.
  • Mewn tri achos, doedd gweithwyr ddim wedi eu hatal o’u gwaith yn ystod ymchwiliad, er gwaetha’ argymhellion yr heddlu a’r Adran Wasanaethau Cymdeithasol.
  • Tros wyliau’r haf, doedd dim camau priodol wedi eu cymryd i djecio ar bron 10% o’r bobol oedd yn gweithio gyda phlant – o ran adroddiadau CRB neu lythyrau geirda.

Fe ddechreuodd yr ymchwiliadau ar ôl i brifathro gael ei garcharu am gam-drin plant ac, yn ôl Estyn a’r Arolygaeth, roedd 25 o achos o gyhuddiadau cam-drin wedi eu trin yn anfoddhaol o fewn pedair blynedd.

Hyd yn oed ar ôl holi’r Cyngor am y rheiny, doedd yna ddim tystiolaeth bod uchel swyddogion wedi ymchwilio’n iawn.

Mewn tri o’r achosion yna, roedd yna fygythiad uniongyrchol i blant ac, yn ôl Estyn mae angen cymryd camau brys i gywiro gwendidau wrth reoli materion diogelwch.

Ymateb y Cyngor

Fe ddywedodd Cadeirydd y Cyngor Sir, John Davies, fod yr adroddiadau’n achosi gofid a bod yr Awdurdod eisoes wedi dechrau gweithredu.

“Nid ydym am osgoi’r materion a grybwyllwyd yn yr adroddiadau hyn a hoffem sicrhau’r rhieni ein bod yn gweithio’n ddiflino er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn cael eu diogelu gymaint ag y mae modd gwneud hynny.”

“Mae’n rhaid inni wella nifer o weithdrefnau a phrosesau gweinyddol, ac mae rhai ohonynt wedi cael eu rhoi ar waith eisoes.  Bydd rhai eraill yn cymryd amser hirach i’w gweithredu ac rydym yn mynd i’r afael â hynny nawr.”