Mae disgwyl i Awdurdod S4C benderfynu pwy fydd Prif Weithredwr newydd y sianel erbyn canol mis nesa, yn ôl llefarydd ar ran S4C heddiw.

“Mae’r broses yn mynd rhagddi,” meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, wrth Golwg 360, “ac r’yn ni’n gobeithio y bydd penderfyniad wedi ei wneud erbyn canol mis Medi.”

Mae dyfalu brwd ynglŷn â phwy sy’n debygol o fod ar y rhestr fer am y swydd – gydag enwau fel Wyn Innes, Angharad Mair, Aled Eurig, Rhodri Williams, Iestyn Garlick, a’r Prif Weithredwr dros-dro, Arwel Ellis Owen, wedi eu crybwyll.

Ond, yn ôl Garffild Lloyd Lewis, ni fydd yna ddatblygiad mawr yn digwydd cyn diwedd Awst ar y cynharaf.

“Bydd angen i’r Awdurdod fynd ati i ddewis rhestr fer nawr,” meddai, wedi i’r cyfnod er mwyn rhoi cais i mewn am y swydd ddod i ben ar 18 Gorffennaf.

Bydd Awdurdod S4C nawr yn cyd-weithio â chwmni recriwtio Odgers Berndtson, a fu’n cydlynu’r broses ymgeisio, er mwyn didoli’r ymgeiswyr.

Mae bellach yn flwyddyn ers i’r prif weithredwr parhaol diwethaf, Iona Jones, adael ei swydd. Mae Arwel Ellis Owen wedi cymryd ei lle dros dro.