Gall clwb pêl-droed Dinas Abertawe ddarganfod yn hwyrach ymlaen heddiw os fydd eu gêm gyntaf erioed yn yr Uwch Gynghrair yn cael ei gohirio ai peidio.

Maent i fod i herio Man City oddi cartref nos Lun nesaf ond mae amheuon yn parhau a fydd modd i’r gêm gael ei chwarae wedi sawl noswaith o derfysg ar strydoedd Manceinion.

Mae disgwyl i’r Uwch Gynghrair ddod i benderfyniad ryw ben heddiw.

Mae cannoedd o wirfoddolwyr wedi bod wrthi’n helpu i glirio canol y ddinas ar ôl i filoedd o derfysgwyr ysbeilio a llosgi siopau, torri ffenestri a dwyn nwyddau.

Parti yn Abertawe

Beth bynnag fydd penderfyniad y gynghrair, fe fydd parti ar strydoedd canol dinas Abertawe yn mynd yn ei flaen y prynhawn yma.

Bydd chwaraewyr Abertawe ynghyd a’r mascot – Cyril yr Alarch – yn bresennol ar stryd Oxford er mwyn cwrdd â’r cefnogwyr, tynnu lluniau ac arwyddo’u llofnodion.

“Mae Abertawe yn gyffro i gyd ar hyn o bryd wrth i’r ddinas gyfri’r dyddiau nes eu gêm gyntaf yn erbyn Manchester City,” meddai arweinydd y Cyngor, Chris Holley.

“Bydd yr achlysur yn ddathliad o holl lwyddiannau’r Elyrch. Bydd y dyrchafiad yn siŵr o fod yn fudd i fusnes canol dinas Abertawe hefyd wrth i’r pêl-droed ddenu cefnogwyr timoedd eraill yma.”

Dyw Abertawe heb chwarae yng nghynghrair uchaf Lloegr es 30 mlynedd, a nhw yw’r clwb cyntaf o Gymru i gael chwarae yn yr Uwch Gynghrair ers iddo gael ei sefydlu yn ôl yn 1992.

Newyddion Trosglwyddiadau

Mae Abertawe hefyd wedi cadarnhau fod cytundeb trwy gôl-geidwad yr Iseldiroedd, Michel Vorm, wedi cael ei gwblhau am ffi o oddeutu £1.5 miliwn.

Mae yna hefyd adroddiadau fod Brendan Rodgers ar ôl yr amddiffynnwr Middlesborough, Matthew Bates, sy’n 24 oed.