Mae Llywodraeth Cymru am herio penderfyniad barnwr yn yr Uchel Lys yn Lloegr sydd wedi ochri gyda chwmni sydd am godi fferm wynt uchaf Cymru.

Gwta fis yn ô1 cafodd RWE npower renewables sêl bendith mewn adolygiad barnwrol gan yr Uchel Lys yn Llundain i fwrw ymlaen â’u cynlluniau i godi fferm wynt 19 o dyrbinau 127 metr o uchder ar dir comin Mynydd y Gwair ger Felindre, i’r gogledd o Abertawe.

Mae’r tir yn eiddo i Ddug Beaufort ac roedd Gweinidog yr Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru wedi gwrthod caniatâd i’r fferm wynt, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yr haf diwethaf.

Yn ei adroddiad, dywedodd Barnwr yr Uchel Lys bod diffyg rhesymeg yn y brif ddadl yn erbyn y datblygiad – y byddai lleoli tyrbinau gwynt ynghanol mawn sydd o bwys amgylcheddol yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd.

Mae ffynonellau Golwg ym Mae Caerdydd yn dweud bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn anghytuno gyda chasgliad y Barnwr, sydd wedi gwrthod rhoi caniatâd iddyn nhw apelio yn erbyn y dyfarniad.

Er hynny mae Golwg yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi apelio’n uniongyrchol i’r Llys Apêl, ond dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa bryd fydd hynny’n cael ei ystyried. Os bydd y Llys Apêl yn ochri gyda Llywodraeth Cymru yna bydd gan RWE npower yr opsiwn i apelio yn y Llys Goruchaf.

Dywedodd gwrthwynebwyr y fferm wynt wrth Golwg eu bod wedi eu “siomi” cyn lleied o bŵer a dylanwad sydd gan Lywodraeth Cymru, er mai nhw sydd i fod â’r gair olaf am ffermydd gwynt o’r maint yma.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 11 Awst