Gary Speed
Mae rheolwr Cymru wedi dweud mai ei waith ef yw codi hyder y cefnogwyr yn nhîm pêl-droed Cymru, a’u denu’n ôl i wylio’r gêmau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014.

Tra bo hen chwaraewyr fel John Hartson yn darogan gwae i Gymru yn y gêmau hyn, mae Gary Speed yn pwysleisio fod gan ef a’i garfan gyfrifoldeb i roi gobaith i’w dilynwyr.

“Dw i’n credu fod pobol eisiau gweld rhywfaint o oleuni – a fy ngwaith i yw hynny,” meddai Speed wrth gael ei holi gan gylchgrawn Golwg ar faes y Brifwyl yn Wrecsam, yn dilyn cynhadledd i’r wasg i gyhoeddi’r garfan i herio Awstralia neithiwr.

Trwy weithio’n galed a llwyddo i ennill ar y cae, mae Speed yn ffyddiog y daw’r cefnogwyr yn ôl yn eu miloedd.

“Rydw i wedi chwarae o flaen torf o 75,000 yn erbyn Azerbaijan yn Stadiwm y Mileniwm – roedd y cefnogwyr yn angerddol. A wnaethon nhw ddim dod yno i wylio Azerbaijan, roedden nhw yno i’n gweld ni,” meddai.

“Felly fy ngwaith i ydi cael yr angerdd yna am bêl-droed Cymru yn ôl, a gobeithio y medrwn ni wneud hynny.

“Os yden ni am gael unrhyw obaith o fynd drwodd i ffeinals Cwpan y Byd, mae’n rhaid i ni gael y cefnogwyr y tu cefn i ni,” meddai.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 11 Awst