Y Torgoch
Mae pryderon y bydd Dŵr Cymru yn parhau i ollwng carthffosiaeth heb ei drin i Lyn Padarn yn Llanberis am flynyddoedd i ddod.

Er bod adroddiad gwyddonol diweddar gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn casglu bod Dŵr Cymru yn euog o lygru’r llyn – gan beryglu bodolaeth pysgodyn prin a dyfodol economaidd yr ardal – fydd yr Asiantaeth ddim yn gorfodi Dŵr Cymru i roi stop ar y llygru.

Yr wythnos yma galwodd Fish Legal – corff sy’n gwarchod buddiannau pysgotwyr – ar i Asiantaeth yr Amgylchedd “orfodi Dŵr Cymru i wneud y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i roi stop ar arllwyson niweidiol”.

Ond tra bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn “argymell” bod angen newid y drefn, mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod am ystyried y gost o wneud unrhyw welliant cyn dod i unrhyw benderfyniad.

Dywedodd Mark Lloyd, Prif Weithredwr Fish Legal, fod Dŵr Cymru yn euog o “drosedd erchyll yn erbyn Llyn Padarn sy’n dreftadaeth naturiol werthfawr – mae’n warthus”.

“Mae adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd yn ategu’r hyn yr ydyn ni wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd.”

Mewn datganiad cyfaddefodd Asiantaeth yr Amgylchedd “fod y brif broblem yn dal heb ei datrys, sef carthion heb eu trin yn dianc o ollyngfeydd stormydd ac yn treiddio i’r llyn ac i’r nentydd sy’n ei fwydo.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Awst