Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau berson mewn cysylltiad â defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol er mwyn annog troseddu yn ardal Caerdydd.
Cafodd dau ddyn 24 awr o’r brifddinas eu harestio brynhawn ddoe ac maen nhw yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Cafodd y ddau eu harestio yn rhan o ymchwiliad gan yr heddlu i fan droseddu nos Fawrth a bore Mercher.
“Mae’r ddau ddyn wedi eu harestio am annog troseddu drwy gam-ddefnyddio gwefan rhwydweithio cymdeithasol Facebook,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Andy Davies.
“Mae Heddlu De Cymru yn parhau i wylio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol ac fe fyddwn ni’n mynd i’r afael â unrhyw un sy’n eu defnyddio er mwyn ceisio annog anrhefn yn ein cymunedau.”
Roedd Heddlu De Cymru wedi rhybuddio pobol ddoe i beidio â defnyddio gwefannau fel Facebook a Twitter er mwyn ceisio annog troseddu.
Daw hyn wedi pryderon fod terfysg yn Lloegr yn cael ei drefnu drwy rwydweithiau cymdeithasol ar-lein.
Roedd tanau mewn dau adeilad segur yn Nhre Biwt a Threganna ar nos Fawrth, a gafodd eu diffodd gan y gwasanaeth tân.
Roedd yna hefyd adroddiadau am ymgais i ladrata o siop JD Sports y brifddinas, a difrod troseddol mewn siop prydau parod ar Stryd Orllewinol y Bont-faen.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Josh Jones bryd hynny eu bod nhw’n gwylio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol am unrhyw arwydd o drefnu terfysg.