RSPCA
Mae swyddogion yr RSPCA wedi galw am wybodaeth ar ôl dod o hyd i geffyl marw mewn ceunant.
Daethpwyd o hyd i’r ceffyl ar Ffordd Tŷ Mawr, Maerun, rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Dywedodd yr Arolygydd Emma Smith fod coesau’r ceffyl wedi eu clymu at ei gilydd â rhaff wen.
“Rydyn ni’n awyddus i gael gafael ar y perchennog er mwyn cael gwybod yn union beth ddigwyddodd i’r ceffyl ac a oedd o wedi marw cyn cael ei ollwng yno,” meddai.
“Doedd yna ddim anafiadau ond roedd gan y ceffyl dyfiant mawr ar ei ben ôl.
“Os oedd y ceffyl yn fyw pan gafodd ei ollwng yno, mae’n amlwg yn fater difrifol ac fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni.
“Os ydi rhywun yn teimlo nad ydyn nhw bellach yn gallu gofalu am anifail mae cymorth ar gael. Does dim esgus i adael anifail am nad oes ei angen.”
Ychwanegodd Emma Smith fod corff y ceffyl wedi ei ddarganfod ar 3 Awst a bellach wedi ei symud gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio llinell gwybodaeth RSPCA ar 0300 1234 999.