Mae tri dyn wedi eu harestio ar amheuaeth o gasglu cocos yn anghyfreithlon.

Dywedodd swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd, oedd yn gwisgo gogls gweld yn y nos, eu bod nhw wedi gweld y tri yn casglu cocos yn yr Aber Dyfrdwy am 2am.

Cafodd y dynion eu harestio gan Heddlu Gogledd Cymru wrth ddychwelyd i’r lan.

Meddiannodd swyddogion yr asiantaeth drelar ac offer casglu cocos yn ogystal â dau sach oedd yn dal tua 220 pwys o gocos, fyddai werth tua £200.

Mae’r heddlu hefyd wedi meddiannu cerbyd gafodd ei ddefnyddio yn ystod y drosedd honedig.

“Dim ond drwy gael trwydded y mae pobol yn cael casglu cocos,” meddai Alan Winstone o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

“Mae’r math yma o weithredu anghyfreithlon yn bygwth swyddi pobol.

“Mae hefyd yn beryglus iawn pysgota yma yn ystod y nos heb unrhyw brofiad na chwaith gwybodaeth.

“Rydyn ni’n cadw llygad barcud ar y cocos yma ac fe fyddwn ni’n gweithredu yn erbyn unrhyw un sy’n cael eu dal yn pysgota yn anghyfreithlon.”

Dywedodd yr asiantaeth fod y tri dyn gafodd eu harestio yn 20, 25 a 28 oed, ac yn byw yn ardal Warrington.

Ychwanegodd nad oedden nhw wedi eu cyhuddo ar hyn o bryd a bod yr ymchwiliad yn parhau.