Mae swyddogion amgylcheddol wedi rhybuddio y dylai pobol gogledd orllewin Cymru baratoi ar gyfer llifogydd posib.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y bydd yna law trwm heddiw ac yfory – yn enwedig ar draws Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru y gallai’r glaw arwain at lifogydd mawr heb lawer o rybudd o flaen llaw.

Maen nhw’n annog pobol i wrando ar y radio a’r teledu neu’r we am y wybodaeth ddiweddaraf.

“Dylid cymryd gofal oherwydd cyflwr y ffyrdd, ac fe ddylai pobol wrando ar adroddiadau traffig am gyngor ynglŷn ag unrhyw aflonyddwch yn lleol,” meddai llefarydd.

Daw’r rhybudd ar ôl llifogydd difrifol yng ngogledd Cymru ym mis Chwefror. Daethpwyd o hyd i gorff dyn 58 oed yn llifogydd Sir Ddinbych bryd hynny.

Ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod y dilyw yn un “anghredadwy” a’r gwaethaf mewn 20 mlynedd.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd dylid mynd i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd neu ffonio’r llinell ffon bwrpasol 0845 988 1188.