Selwyn Griffith (llun Gerallt Llywelyn)
Mae’r cyn-Archdderwydd, Selwyn Iolen, wedi marw yn 83 oed, ychydig ddyddiau wedi diwedd yr Eisteddfod Genedlaethol lle’r oedd yr Archdderwydd presennol wedi dymuno gwellhad iddo.

Roedd y bardd Selwyn Griffith yn dod o Fethel ger Caernarfon ac fe ddaeth yn enwog i ddechrau am sgrifennu darnau adrodd, yn arbennig i blant.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1989, enillodd y Goron am ddilyniant o gerddi ar y testun “Arwyr” yn sôn am un o’i hoffterau mawr – pêl-droed.

Archdderwydd

Bu’n Archdderwydd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Eryri yn 2005 – ac yntau’n fab i chwarelwr, cafodd bleser mawr o arwain yr Orsedd ar dir y ‘lord’ yn stad Faenol.

Enillodd ddeugain o gadeiriau a choronau, gan gynnwys rhai mewn Eisteddfodau Taleithiol megis Dyffryn Conwy, Pontrhydfendigaid a Llanbedr Pont Steffan ac roedd yn gefnogwr mawr i eisteddfodau bach.

Cyhoeddodd wyth cyfrol o farddoniaeth yn arbennig ar gyfer plant a bu’n beirniadu Llên ac Adrodd  dros 400 o weithiau mewn eisteddfodau ledled Cymru.

Doedd Selwyn Iolen ddim wedi gallu mynd i’r Eisteddfod yn Wrecsam oherwydd afiechyd.

Gyrfa athro

Gadawodd yr ysgol yng Nghaernarfon yn 1946, pan alwyd ef  i’r Llu Awyr. Cafodd ei drosglwyddo i RAF Llandwrog i ddiweddu ei wasanaeth milwrol yn 1948 ac yna aeth i weithio i’r hen Gyngor Dosbarth Gwyrfai.

Ar ôl 18 mlynedd, penderfynodd fynd ar Gwrs Athro a bu’n dysgu yng Nghonwy, Bethesda a Llanberis gan dreulio 9 mlynedd yn Ysgol Rhiwlas yn Brifathro.