Roedd y Briodas Frenhinol wedi gwneud drwg i fusnesau de Cymru, yn ôl arolwg chwarterol Siambr Fasnach De Cymru.
Mae’r arolwg, sy’n edrych ar 2,800 o gwmnïau bach a chanolig fel gwestai, siopau a chwmnïau adeiladu, yn dangos bod masnach wedi arafu yn ystod yr ail chwarter eleni, o’i gymharu â’r chwarter cyntaf.
Yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd, roedd canran uchel o fusnesau bach a chanolig yn cwyno fod masnach wedi arafu.
Yn Abertawe, roedd dros draean (34%) o gwmnïau yn dweud bod gwerthiant wedi disgyn, o’i gymharu â 28% yn y chwarter cyntaf.
Yng Nghasnewydd roedd 28% o gwmnïau yn cwyno bod gwerthiant wedi disgyn, o’i gymharu â 25% yn y chwarter cyntaf.
Gwelwyd y newid mwyaf yng Nghaerdydd, lle’r oedd 21% o gwmnïau yn dweud bod eu gwerthiant wedi disgyn yn yr ail chwarter – dim ond 6% oedd yn dweud bod eu gwerthiant wedi disgyn yn y chwarter cyntaf.
Yn ôl Siambr Fasnach De Cymru, mae chwyddiant wedi bod yn broblem fawr i fusnesau yn y chwarter cyntaf a’r ail.
Ond y gwyliau Pasg estynedig a’r Briodas Frenhinol oedd yn bennaf gyfrifol am y cwymp, medden nhw.
Mae’n debyg fod pobol wedi ymestyn eu gwyliau er mwyn cynnwys y diwrnodau wedi’r dathliad ar ddiwedd mis Ebrill.
Dibynnu ar y sector gyhoeddus
Mae’r siambr hefyd yn dweud fod nifer o fusnesau yn dibynnu ar gytundebau gan y sector gyhoeddus, a bod busnesau’n dioddef nawr bod y rheiny’n mynd yn brinnach.
Yn ôl Cyfarwyddwr y Siambr Fasnach, Graham Morgan, mae’r arafu masnachol yn ystod y chwarter diwethaf wedi bod yn “siom mawr” o’u cymharu â ffigyrau’r chwarter cynt.
Serch hynny dywedodd fod busnesau’r parhau’n obeithiol ynglŷn â’r chwarter nesaf, meddai.
Dywedodd y gallai dyrchafiad Clwb Pêl Droed Abertawe i’r Uwch Gynghrair helpu busnesau’r ddinas dros y misoedd nesaf – er bod perchnogion busnesau’r ardal yn parhau’n amheus.
“Y gobaith yw y bydd dyrchafiad Abertawe i’r Uwch Gynghrair yn arwain at gynnydd masnachol yn ystod y misoedd nesaf,” meddai.