Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi ymateb i nifer bychan o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd dros nos.

Roedd tanau mewn dau adeilad segur yn Nhre Biwt a Threganna a gafodd eu diffodd gan y gwasanaeth tân.

Roedd yna hefyd adroddiadau am ymgais i ladrata o siop JD Sports y brifddinas, a difrod troseddol mewn siop prydau parod ar Stryd Orllewinol y Bont-faen.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio ac fe ddylai unrhyw lygaid dystion gysylltu â nhw ar 101 neu Daclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Trydar troseddwyr

Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r gwasanaethau brys wedi eu hanafu.

“Dydyn ni ddim yn credu fod cysylltiad rhwng y digwyddiadau, sydd wedi achosi ychydig iawn o ddifrod i eiddo,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Josh Jones.

“Does yna ddim adroddiadau am unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn ardal Heddlu De Cymru.

“Mae rhagor o swyddogion ar y strydoedd er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn saff.”

Ychwanegodd eu bod nhw wedi bod yn gwylio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol am unrhyw arwydd o drefnu terfysg.

“Roedd yna ambell ymgais i greu anrhefn ond roedden nhw wedi methu,” meddai Josh Jones.

“Bydd yr heddlu yn mynd i’r afael â unrhyw un sy’n mynd ati i geisio annog troseddu.

“Rydyn ni wedi gweithio yn agos â’n cymunedau ac eisiau diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth.”