Jeremy Hunt
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud y dylai unrhyw wasanaethau teledu lleol yng Nghymru gynnwys darpariaeth yn y Gymraeg.

Datgelwyd ddoe y bydd rhai o ardaloedd Cymru yn cael y cyfle i wneud cais am drwydded i sefydlu gwasanaeth teledu lleol yno.

Mae chwe ardal o Gymru ymysg 66 drwy Brydain sydd wedi eu gwahodd i wneud cais:

• Caerdydd, Pen y Bont ar Ogwr a Chasnewydd

• Yr Wyddgrug, Dinbych a Rhuthun

• Abertawe a Llanelli

• Bangor

• Caerfyrddin

• Hwlffordd

Mae tua £40 miliwn o arian trwydded teledu’r BBC wedi ei glustnodi at gychwyn y gorsafoedd teledu ond bydd rhaid iddyn nhw gynnal eu hunain o hynny ymlaen.

Fe fydd y trwyddedau yn cael eu gwobrwyo’r flwyddyn nesaf, ar ôl ymgyrch i annog ardaloedd i wneud cais.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu fod angen “cymal i sicrhau darpariaeth deilwng i’r Gymraeg yn y trwyddedi o’r cychwyn cyntaf”.

“Mae angen osgoi’r problemau a achoswyd mewn radio lleol megis Radio Carmarthenshire pan nad oedd yr awdurdodau yn gallu mynnu bod darpariaeth ddigonol o ddarlledu Cymraeg,” meddai Cadeirydd Sir Gaerfyrddin y Gymdeithas, Sioned Elin.

“Mae’n rhaid iddo fod yn ddealledig o’r cychwyn cyntaf mewn llefydd fel Caerfyrddin a Bangor fod o leiaf hanner y rhaglenni yn Gymraeg.”

Maen nhw wedi galw ar bobol i ymateb i ymgynghoriad Adran Diwylliant Llywodraeth San Steffan, gan “fynnu fod rhaid i unrhyw orsafoedd teledu lleol yng Nghymru adlewyrchu natur ieithyddol yr ardal”.

‘Perthnasol’

Wrth lansio’r cynllun dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, mai’r nod oedd sefydlu gorsafoedd teledu lleol tebyg i’r rheini sy’n bodoli yn yr Unol Daleithiau ym Mhrydain.

“Fe fydd gwasanaethau teledu lleol yn newid sylfaenol yn sut mae pobol yn cael gwybodaeth am eu cymunedau eu hunain.

“Mae yna alw mawr am, newyddion lleol a gwybodaeth mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.

“Rydw i eisiau i bobol allu gwylio teledu sydd wir yn berthnasol iddyn nhw, am beth sy’n digwydd lle y maen nhw’n byw ac am bethau sy’n berthnasol iddyn nhw.”

Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, David Jones, fod y cyfle i arloesi ym maes gwasanaethau teledu lleol yn newyddion da i Gymru.

“Rydw i’n croesawu’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Diwylliant heddiw y bydd chwe thref yng Nghymru’n cael gwneud cais am drwyddedau teledu,” meddai.

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ddarlledu yng Nghymru. Mae yna botensial anferth i newid y modd y mae trefi Cymru yn cael mynediad at newyddion a gwybodaeth.

“Fe fydd hefyd yn gwneud gwleidyddion yn fwy atebol.

“Rydw i’n annog cymunedau gan gynnwys Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Hwlffordd, yr Wyddgrug ac Abertawe i wneud cais am deledu lleol yn eu hardal nhw.”