David Davies
Gwleidyddion sydd ar fai am y trais sydd wedi lledu ar draws Llundain a dinasoedd mawr eraill, yn ôl Aelod Seneddol o Gymru.

Dywedodd y Ceidwadwr David Davies, sy’n Gwnstabl Arbennig â Heddlu Trafnidiaeth Prydain, fod newidiadau i’r gyfraith yn golygu nad oes gan yr heddlu rhwydd hynt i fynd i’r afael â’r terfysg.

Dywedodd ei fod yn credu y dylai’r heddlu gael defnyddio grym mewn sefyllfaoedd eithafol, a chael ymosod cyn disgwyl i droseddwyr ymosod arnyn nhw.

Galwodd David Davies ar wleidyddion i roi’r gorau i bwyntio bys at yr heddlu am achosi’r terfysg.

Dywedodd y dylen nhw fod wedi ystyried effaith eu polisïau eu hunain ar y gallu i gynnal cyfraith a threfn.

“Mae’r heddlu wedi eu gorfodi i roi blaenoriaeth i hawliau dynol y bobol sy’n torri’r gyfraith drwy’r adeg,” meddai.

“Mae swyddogion mewn rhai ardaloedd yn gorfod goddef pobol yn rhegi arnyn nhw heb gael ymateb, sy’n tanseilio’r awdurdod oedd gan yr heddlu yn llwyr.

“Rydyn ni wedi cyrraedd lle’r ydyn ni heddiw am nad ydyn ni’n caniatáu i’r heddlu ddefnyddio trais yn erbyn pobol sy’n defnyddio trais yn eu herbyn nhw.

“Tai a siopau wedi eu llosgi’n ulw yw’r pris yr ydyn ni yn ei dalu am bryderu’n bennaf oll am hawliau dynol torfeydd treisgar.”

Grym

Dywedodd David Davies, 41, fod un ateb hawdd i ddatrys y terfysg. Fe ddylai’r heddlu ganiatáu i bobol adael yr ardal cyn defnyddio “faint bynnag o rym y maen nhw’n ei ystyried yn addas.”

“Wrth gwrs, fe fyddai hyn yn arwain at ddegau o luniau ffonau symudol o’r heddlu yn bwrw pobol, a chwynion fod ‘plant diniwed’ – troseddwyr treisgar 17 oed – wedi eu hanafu.

“Mae unrhyw swyddog sy’n defnyddio trais er mwyn amddiffyn ei hun rhag ymosodiad yn gwybod y bydd yn cael ei gosbi a’i bardduo gan wleidyddion ac ymgyrchwyr hawliau dynol.

“Beth yw ein blaenoriaethau ni? Yr heddlu sy’n ceisio cynnal cyfraith a threfn? Ynteu hawliau dynol pobol sydd eisiau torri’r gyfraith?

“Os ydyn nhw’n dewis yr ail fe ddylai Aelodau Seneddol gau eu cegau a rhoi’r gorau i gwyno.”