Mae’r heddlu ym Mhen y Bont ar Ogwr yn galw am lygaid dystion yn dilyn ymosodiad ar Stryd Tonna, Nantyfyllon, yn ystod oriau mân y bore ddoe.

Ymosododd pedwar person ar ddyn 26 oed gan dorri esgyrn yn ei gefn a’i goesau tua 3.30am.

Mae’r dioddefwr yn derbyn triniaeth am ei anafiadau yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen y Bont ar Ogwr.

Mae’n heddlu wedi lansio ymchwiliad i’r ymosodiad ac wedi galw ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu â nhw.

“Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ddod o hyd i yrrwr car bach tywyll, sydd o bosib yn Renault Clio,” meddai’r Ditectif Gwnstabl John Doherty.

“Rydyn ni’n credu ei fod wedi dadlau gyda’r rhai sy’n cael eu drwgdybio cyn yr ymosodiad.

“Rydyn ni’n credu ei fod wedi gadael y car ac yn rhan o ryw fath o anghydfod gyda grŵp o unigolion cyn dychwelyd i’r car a gyrru i ffwrdd yng nghyfeiriad Nantyfyllon.

“Rydyn ni’n trin hwn fel digwyddiad ar ei ben ei hun, ond mae wedi gadael y dioddefwr gydag anafiadau difrifol iawn a bydd angen iddo dreulio amser yn yr ysbyty.”

Dylai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth gysylltu gyda heddlu Pen y Bont ar Ogwr ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.