Lois, Huw a'r babi
Mae cyfres deledu Pobl y Cwm wedi ei beirniadu am ei phortread o ferch ifanc yn rhoi genedigaeth.

Dywedodd bydwraig wrth Golwg 360 fod yr olygfa yn “anrealistig” ac mae rhai o wylwyr y rhaglen hefyd wedi ei beirniadu.

Yn ystod yr olygfa roedd merch 16 oed, Lois Evans, wedi rhoi genedigaeth ar ei phen ei hun wrth i’w chariad, Huw White, fynd i nôl pizza.

Erbyn i Huw (Rhys Hartley) ddychwelyd yn yr olygfa nesaf roedd Lois Evans (Mirain Alaw Jones) wedi rhoi genedigaeth, ail-wisgo ei dillad ac yn dal y babi yn ei dwylo.

‘Edrych braidd yn rhy dda’

Yn ôl Grace Thomas, sy’n fydwraig ymgynghorol ac yn lefarydd ar ran Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru, mae’r olygfa yn gwthio’r ffiniau.

“Mae’r enedigaeth braidd yn afrealistig,” meddai. “Beth ddigwyddodd i’r brych, a phwy dorrodd y cortyn? Mae’r cyhoedd yn deall y pethau yma.”

Dywedodd fod merched ifanc yn gallu rhoi genedigaeth yn gynnar, ac ar eu pennau eu hunain.

“Mae’n gallu digwydd fel hyn, yn arbennig mewn merched ifanc, iach. Ond fel arfer ar ôl hynny, maen nhw’n teimlo’n sigledig iawn ac mewn sioc.

“Mae’n rhyfedd nad oes arwydd ei bod wedi ceisio cysylltu ag unrhyw un…  ac mae’n rhyfedd iawn nad oes golwg wedi dychryn arni.

“Roedd y ferch yn edrych braidd rhy dda, yn eistedd ar ben y grisiau – hefo’i dillad i gyd ymlaen!”

‘Sdori hurt’

Doedd yr olygfa heb wneud argraff ar ddefnyddwyr gwefan Twitter, chwaith. Dywedodd un fod “gwiriondeb” y stori wedi bod yn ddigon i wneud iddi roi’r gorau i wylio’r rhaglen.

“Dw i wedi gwylio Pobol y Cwm yn selog am fy holl oes ond dwi’n ama bod y sdori hurt yma yn ddigon imi ddod o hyd i rwbeth callach ar y bocs,” meddai un trydarwraig wedi’i chorddi.

“Pobol y Cwm yn hollol ridiculous heno,” meddai un arall. “Lois yn cal babi tra bo Huw’n hol pizza? #nefarinewropgwboi.”

“I feddwl mai mond lawr hewl odd Huw yn mynd i hol pizza, da’th babi Lois mas yn gloi iawn!! #pobolycwm #patheitc”