Kirsty Jones
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud ei fod yn parhau yn bosib y bydd llofrudd y teithiwr Kirsty Jones yn cael ei ddal.

Cafodd Kirsty Jones, 23 oed, o Dredomen, ger Aberhonddu, ei threisio a’i thagu mewn gwesty yng Ngwlad Thai union 11 mlynedd yn ôl.

Daethpwyd o hyd i gorff y ferch mewn ystafell yng Ngwesty Aree yn Chiang Mai, sydd i’r gogledd o Bangkok.

Roedd Kirsty Jones ar drydydd mis taith dwy flynedd o amgylch y byd, ar ôl graddio o Brifysgol Lerpwl. Dechreuodd y daith yn Singapore a Malaysia ym mis Mai 2000 cyn symud ymlaen i Wlad Thai.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n parhau i gyd-weithio ag Interpol a’r Swyddfa Dramor er mwyn ceisio sicrhau cyfiawnder i’w theulu.

“Rydyn ni’n teimlo fod yr atebion i’w cael yng Ngwlad Thai, yn enwedig yn Chang Mai,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Steve Hughson.

“Ym mis Hydref y llynedd fe ymatebon ni i gais gan Dwrnai Gwladol Gwlad Thai oedd yn golygu ail-gyfweld nifer o lygaid-dystion oedd bellach yn byw ym Mhrydain.

“Rydyn ni hefyd wedi olrhain nifer o lygaid dystion sy’n byw yng Ngwlad Thai a rhywun sy’n byw mewn comiwn yn India.”

Fideo

Dywedodd eu bod nhw wedi dychwelyd eu holl ddogfennau ac adroddiad ar y mater i awdurdodau Gwlad Thai, yn ogystal â chais i drafod y materion a ddaeth i’r amlwg yn ystod y cyfweliadau.

“Mae awdurdodau Gwlad Thai wedi dweud eu bod nhw’n parhau i asesu’r dogfennau cyn y gall unrhyw drafodaethau ddigwydd,” meddai Steve Hughson.

“Rydyn ni’n awyddus iawn fod hyn yn digwydd cyn gynted a bo modd.”

Daeth i’r amlwg fis diwethaf fod fideo wedi ei gyhoeddi ar y we sy’n enwi dyn gafodd ei weld ger y gwesty.

Mae’r fideo gan ddyn o Awstralia oedd yn arfer byw yng Ngwlad Thai wedi ymddangos ar wefan YouTube.

Yn y fideo mae’n honni fod y dyn, sy’n athro mewn prifysgol, a dyn Thai arall wedi eu gweld y tu allan i Westy Aree yn Chiang Mai.

Mae’r dyn arall, sy’n heddwas, eisoes wedi cael prawf  DNA ac nid yw’n cael ei ddrwgdybio.

Dywedodd Steve Hughson eu bod nhw wedi cyfeirio awdurdodau Gwlad Thai at y wybodaeth newydd ym mis Mawrth eleni.

“Roedden ni wedi gofyn iddyn nhw gyfweld ffynhonnell yr honiad ac ymchwilio yn drylwyr i’r manylion,” meddai.