Dyfed Edwards
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, wedi gwrthod talu tocyn parcio am ei fod yn uniaith Saesneg.

Dywedodd y cynghorydd y dylai cwmnïau preifat sy’n gweithredu yng Ngwynedd ddangos parch i siaradwyr Cymraeg trwy gynnig gwasanaeth dwyieithog i’w cwsmeriaid.

Dywedodd ei fod wedi derbyn llythyrau cyfreithiol gan gwmni casglu dyledion ‘Newlyn’ am wrthod â thalu dirwy parcio NCP uniaith Saesneg.

Derbyniodd y tocyn yng Ngorsaf Drên Bangor ym mis Tachwedd 2010.

Dywedodd ei fod yn derbyn cyfrifoldeb llwyr am barcio mewn lleoliad anaddas yn yr Orsaf wrth iddo ddal y trên o Orsaf Bangor ar y 5 o Dachwedd 2010.

Ond ar ol derbyn llythyr uniaith Saesneg gan NCP yn ei hysbysu o’r ddirwy, cysylltodd â’r cwmni yn holi am lythyr Cymraeg neu ddwyieithog.

“Naw mis yn ddiweddarach a dwi’n parhau i aros am hysbysiad o’r ddirwy gan NCP yn Gymraeg,” meddai Dyfed Edwards sy’n cynrychioli ward Penygroes ar Gyngor Gwynedd.

“Dw i’n derbyn cyfrifoldeb am y ddirwy, ac yn fodlon talu’r gosb.  Fodd bynnag, dwi’n hynod siomedig bod y cwmni meysydd parcio yma sy’n gweithredu ledled Cymru ddim yn dangos unrhyw barch tuag at eu cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith a’u bod yn dewis peidio â chynnig gwasanaeth dwyieithog i ni.

“Yn eironig ddigon, mae’r ohebiaeth gan y casglwyr dyled yn nodi nifer o ieithoedd y gellir derbyn yr hysbysiad ynddi, gan gynnwys Pwyleg a Mandarin, ond dyw’r iaith Gymraeg ddim hyd yn oed wedi ei nodi fel dewis, yma yn ein gwlad ein hunain!”

Dywedodd ei fod eisoes wedi codi’r mater gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones.

“Fel arweinydd awdurdod lleol sy’n gweithredu polisi iaith Gymraeg gynhwysfawr, dwi’n ei gweld hi’n hynod rwystredig bod rhai cwmnïau preifat yn dewis anwybyddu’r angen i gynnig gwasanaeth Cymraeg i’w cwsmeriaid,” meddai.

“Os ydym am sicrhau cymdeithas ddwyieithog go iawn, yna mae’r cyfrifoldeb yn gorffwys gyda phawb – nid dim ond y sector gyhoeddus.

“Mae holl fasnachu Gorsaf Drên Bangor yn digwydd yn ddwyieithog.  Mae Trenau Arriva Cymru a Chyngor Gwynedd yn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth gan gynnig gwasanaeth Cymraeg i’w cwsmeriaid.

“NCP yw’r unig gorff sydd ddim yn gweithredu eu busnes yn ddwyieithog yn yr Orsaf Drên.  Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod NCP y cwmni meysydd parcio mwyaf ym Mhrydain.”