Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth ar ôl ymosodiad rhywiol difrifol ar ddynes 20 oed ym Mlaenau Gwent.

Y gred yw fod yr ymosodiad wedi digwydd mewn parc chwarae ar Primitive Place, Cendl, ger Glyn Ebwy rhwng 8pm a 10pm ddydd Sadwrn.

Roedd y dynes wedi cerdded o ardal Stryd Llangynidr yn Garnlydan. Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n cynnal ymchwiliadau fforensig o dy i dy.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.

Dywedodd yr heddlu fod y dioddefwr yn derbyn gofal arbenigol.