Mae cwmni Tinpolis o Lanelli wedi prynu cwmni cynhyrchu BASE Productions o’r Unol Daleithiau.

Dyma’r ail gwmni cynhyrchu teledu Americanaidd y mae Tinopolis wedi ei brynu, ar ôl iddyn nhw brynu A. Smith & Co yn ddiweddar.

Mae prynu’r cwmni yn rhan o strategaeth i amrywio ac ymestyn y cwmni, medden nhw.

Mae’n golygu fod y cwmni bellach yn “chwarae rhan go iawn ar lefel rhyngwladol, ac yn fwy abl i wasanaethu’n cwsmeriaid ar draws y byd,” meddai Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Tinopolis.

Yn ôl Ron Jones, mae’r datblygiad diweddaraf yn brawf pellach fod y cwmni wedi dod “yn bell iawn dros y blynyddoedd.”

“Ond,” meddai, “dydyn ni ddim wedi anghofio o le’r ydyn ni wedi dod, na sut y gwnaethon ni ddechrau.

“Roedd ein llwyddiant ni yn bosib am fod S4C wedi rhoi eu ffydd yn ein creadigrwydd a’n gallu i roi gwerth am arian.

“Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol erioed o’r angen i ad-dalu’r ffydd hwnnw, ac wrth adeiladu cwmni rhyngwladol sydd â’i wreiddiau’n gadarn yng Nghymru rwy’n meddwl ein bod ni wedi gwneud hynny.

“Mae Tinopolis yn enghraifft o’r hyn all gael ei gyflawni yng Nghymru pan fydd arian cyhoeddus ac ysbryd entrepreneuriaid yn dod at ei gilydd.”

Dechreuodd cwmni Tinopolis wrth ddarparu rhaglenni i S4C, ond maen nhw bellach wedi ymestyn y cwmni i brynu cynhyrchwr rhaglenni Question Time y BBC – Mentron, yn ogystal â Sunset+Vine, Daybreak, Pioneer a A. Smith & Co.

Erbyn hyn mae’r cwmni yn cynhyrchu o gwmpas 1,600 o oriau o raglenni drama, ffeithiol, adloniant a chwaraeon ar gyfer dros 200 o ddarlledwyr ar draws y byd.

Mae gan gwmni BASE Productions ei stiwdio a’i adnoddau cynhyrchu ei hun wedi eu lleoli yng Nghaliffornia, yn ogystal â swyddfeydd yn Washington DC. Ar hyn o bryd maen nhw’n darparu rhaglenni i sianeli ESPN, National Geographic, a Tru TV.

Bydd dau Brif Weithredwyr BASE Productions, Mickey Stern a John Brenkus, yn parhau i arwain gweithgareddau BASE Productions, tra bod Mickey Stern hefyd yn ymuno â phrif fwrdd rheoli Tinopolis.